Mewn rhesymeg a ieithyddiaeth, iaith a ddefnyddir i ddweud pethau ynglŷn â ieithoedd eraill yw uwchiaith.

Mathau

golygu

Swyddogaeth mewn trosiad

golygu

Cyfrifiadureg

golygu

Nid yw cyfrifiaduron yn ddeallus fel pobl felly nid ydynt yn cael ystyr syniad fel y byddai person. Dilyna cyfrifiaduron rhaglenni sydd yn setiau cyfarwyddiadau mewn iaith glîr a syml. Mae datblygiad ieithoedd rhaglennu yn ymglymu defnydd uwchiaith. Ffurf Backus-Naur yw'r un o'r uwchieithoedd cynharach defnyddiwyd yng nghyfrifiadura a ddatblygwyd yn y chwedegau gan John Backus a Peter Naur. Enghraifftau o ieithoedd marcio yw HTML a XHTML a allai gael eu defnyddio i gyflwyno tudalennau gwe ar y rhyngrwyd gyda chyfryngau fel testun (wedi ei fformatio neu heb ei fformatio), graffigau, sain a fideo. Mae ieithoedd marcio yn wahanol i uwchieithoedd oblegid dim ond sut mae dogfen yn cael ei dangos, nid cystrawen iaith raglennu, maent yn eu disgrifio. XML yw'r uwchiaith a ddefnyddir i ddisgrifio XHTML fel defnyddir SGML i ddisgrifio HTML. Mae XHTML yn llymach nag HTML, e.e. mae XHTML yn gas sensitif tra nad yw HTML yn. Defnyddir XML i ddisgrifio dogfennau eraill fel "OpenDocument Text" sydd yn y fformat brodorol i raglen y prosesydd geiriau yn OpenOffice.org. Mae uwchieithoedd eraill wedi'u selio ar safon W3C XML 1.0, gan gynnwys:

Yn ychwanegol, mae ieithoedd marcio ar gyfer nodiant mathemategol a gwyddonol megis Tex a LaTeX.