Valentinian III
Roedd Flavius Placidius Valentinianus (2 Gorffennaf 419 – 16 Mawrth 455), a adnabyddir hefyd fel Valentinian III, yn Ymerawdwr Rhufain yn y gorllewin (425–455).
Valentinian III | |
---|---|
Ganwyd | 2 Gorffennaf 419 Ravenna |
Bu farw | 16 Mawrth 455 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | teyrn, gwleidydd |
Swydd | Western Roman emperor, seneddwr Rhufeinig |
Tad | Constantius III |
Mam | Galla Placidia |
Priod | Licinia Eudoxia |
Plant | Placidia, Eudocia |
Llinach | Llinach Theodosius |
Ganed Valentinian yn Ravenna, prifddinas yr ymerodraeth yn y gorllewin ar y pryd, yn unig fab i'r ymerawdwr Constantius III a Galla Placidia, merch yr ymerawdwr Theodosius I. Wedi marwolaeth ei dad yn 421, ffraeodd ei fam a'i brawd, yr ymerawdwr Honorius, ac aeth ag ef a'i chwaer i Gaergystennin at Theodosius II.
Bu farw Honorius yn 423, a chipiwyd grym yn Rhufain gan Joannes. Enwyd Valentinian fel Cesar gan Theodosius, a threfnodd iddo briodi ei ferch Licinia Eudoxia. Yn 425, wedi i Joannes gael ei orchfygu, sefydlwyd Valentinian yn Ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin, yn chwech oed.
Gan ei fod mor ieuanc, roedd yr ymerodraeth yn cael ei rheoli'n gyntaf gan ei fam, yna ar ôl 433, gan y Magister militum Flavius Aëtius. Colli tir wnaeth yr ymerodraeth dan Valentinian; cipiwyd talaith Affrica gan y Fandaliaid yn 439; ildiwyd Prydain yn derfynol yn 446 a chollwyd rhannau helaeth o Sbaen a Gâl i'r barbariaid. Ar y llaw arall, enillodd Aëtius fuddugoliaeth fawr dros yr Hyniaid dan Attila ger Chalons yn 451.
Yn 454 llofruddiwyd Aëtius gan Valentinian ei hun. Sylw un o'i gyfoeswyr oedd ei fod fel dyn oedd wedi defnyddio ei law chwith i dorri ei law dde i ffwrdd. Ar 16 Mawrth y flwyddyn wedyn, llofruddiwyd yr ymerawdwr ei hun gan ddau o ŵyr Aëtius.
Rhagflaenydd: Flavius Augustus Honorius |
Ymerodron Rhufain | Olynydd: Petronius Maximus |