Dinas hynafol a chymuned (comune) yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal, yw Ravenna, sy'n brifddinas talaith Ravenna yn rhanbarth Emilia-Romagna. Fe'i lleolir ger arfordir Môr Adria. Mae'n borthladd a gystylltir â Môr Adria gan gamlas.

Ravenna
Mathcymuned, dinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth155,751 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMichele De Pascale Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
NawddsantApollinaris Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Eidaleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Ravenna Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd653.82 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr4 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaArgenta, Bagnacavallo, Bertinoro, Cervia, Cesena, Comacchio, Forlì, Russi, Alfonsine, Talaith Forlì-Cesena Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau44.4161°N 12.2017°E Edit this on Wikidata
Cod post48121–48125 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMichele De Pascale Edit this on Wikidata
Map

Roedd poblogaeth y gymuned yng nghyfrifiad 2011 yn 153,740.[1]

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Ravenna gan y Sabiniaid. Bu'n ddinas o gyfnod yr Umbriaid ymlaen ac mae'n bosibl iddi gael ei gwladychu gan yr Etrwsciaid. Syrthiodd i'r Rhufeiniaid yn yr 2g CC. Cryfhawyd y ddinas gan yr ymerawdwr Augustus, a adeiladwyd camlesi yno a phorthladd milwrol. Roedd yn brifddinas yr Ymerodraeth Rufeinig yn y Gorllewin (402476), teyrnas yr Ostrogothiaid (476526) a rhaglawiaeth Fysantaidd Ravenna ar ôl hynny (584751). Yn 751 cafodd y ddinas ei meddiannu gan y Lombardiaid a daeth yr Oes Aur i ben. Dirywiodd i fod yn dref fechan ddinod yn yr Oesoedd Canol. Yn 1431 fe'i cipiwyd gan Gweriniaeth Fenis. Dim ond ar ôl i'r wlad gael ei huno gan Garibaldi a sefydlu gwladwriaeth fodern yr Eidal y dechreuodd Ravenna adfywio. Erbyn heddiw mae'n ganolfan masnach a diwydiant ac mae'n un o atyniadau twristaidd mwyaf yr Eidal.

Mae'r ddinas yn enwog am yr adeiladau o'r cyfnodau cynnar a'r mosaics sy'n eu haddurno, sy'n cynnwys Mawsolëwm Theodoric, eglwys San Vitale, Mawsolëwm Galla Placida, eglwys Sant'Apollinare in Classe, Palas Theodoric a'r Duomo (eglwys gadeiriol).

Mawsolëwm Theodoric yn Ravenna, sy'n esiampl bwysig o bensaerniaeth y Gothiaid

Enwogion

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. City Population; adalwyd 8 Mai 2018