Flavius Aëtius
Roedd Flavius Aëtius neu Aetius, (c. 396 - 21 Medi 454), yn gadfridog Rhufeinig yng nhyfnod olaf yr ymerodraeth yn y gorllewin. Mae'n fwyaf enwog am gael y gorau ar Attila, brenin yr Hyniaid ym Mrwydr Chalons yn 451.
Flavius Aëtius | |
---|---|
Ganwyd | 390s Silistra |
Bu farw | 21 Medi 454 Ravenna |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rufeinig y Gorllewin, Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
Swydd | Conswl Rhufeinig, seneddwr Rhufeinig |
Tad | Gaudentius |
Priod | Unknown, Pelagia |
Plant | Carpilio, Aetia, Gaudentius |
Ganed Aëtius yn Durostorum yn nhalaith Moesia (Silistra, Bwlgaria heddiw). Roedd ei fam yn frodor o'r Eidal a'i dad yn Sgythiad. Ymunodd a'r fyddin a daeth i amlygrwydd yn fuan. Treuliodd rai blynyddoedd fel gwystl, yn gyntaf yn llys Alaric I, brein y Gothiaid (efallai 405–408), ac yn ddiweddarach yn llys Rugila, brenin yr Hyniaid. Yn In 425, arweiniodd Aëtius fyddin o Hyniaid i'r Eidal i gefnogi Joannes, oedd wedi ei gyhoeddi ei hun yn ymerawdwr. Erbyn iddo gyrraedd Ravenna roedd Joannes eisoes wedi ei orchfygu a'i ddienyddio. Daeth Aëtius i gytundeb a Galla Placidia, oedd yn rheoli dros ei mab ieuanc Valentinian III, a phenodwyd ef i'r swydd o Magister militum per Gallias ("Meistr y Milwyr yng Ngâl").
Gorchfygodd Aëtius y Fisigothiaid ger Arles. Yn 432 aeth yn frwydr yn yr Eidal rhyngddo ef a chadfridog Rhufeinig arall, Bonifacius. Byddin Bonifacius gafodd y gorau o'r frwydr, ond clwyfwyd ef mor ddifrifol nes iddo farw rai misoedd wedyn. Rhwng 433 a 450, Aëtius oedd yn rheoli'r ymerodraeth yn y gorllewin mewn gwirionedd.
Yn 451, ymosododd Attila ar y gorllewin gyda byddimn enfawr o Hyniaid, Ostrogothiaid a chyngheiriaid eraill. Gwnaeth Aëtius gytundeb a Theodoric I, brenin y Fisigothiaid, ynghyd a'r Alaniaid a'r Ffranciaid, i wrthwynebu Attila. Bu brwydr fawr ger Châlons-en-Champagne ar 20 Medi, 451 (neu 20 Mehefin yn ôl rhai ffynonellau). Er i Theoderic gael ei ladd yn y frwydr, gorfodwyd i'r Hyniaid encilio. Y flwyddyn wedyn ymosodoss Attila ar yr Eidal.
Roedd yr ymerawdwr Valentinian yn amheus o Aëtius, a llwyddodd y seneddwr Petronius Maximus a'r siambrlen Heraclius i berswadio Valentinian i ladd Aëtius. Ar 21 Medi, 454, pan ddaeth Aëtius i lys Valentinian yn Ravenna i gyflwyno adroddiad ariannol, lladdodd yr ymerawdwr ef. Y flwyddyn wedyn llofruddiwyd Valentinian ei hun gan Optila a Thraustila, dau Hyn oedd yn gyfeillion i Aëtius.