Fampir
Mae'r fampir yn greadur chwedlonol sy'n byw drwy yfed gwaed pobl byw. Gall fod yn wrywaidd neu fenywaidd. Y fampir enwocaf yw 'Draciwla', gwrthrych nifer fawr o lyfrau a ffilmiau.
Mewn chwedlau gwerin, dywedir y byddai fampirod yn ymweld â'r bobl a oedd yn agos atynt ac yn achosi anhrefn neu farwolaethau yn y cymdogaethau lle'r oeddent yn byw pan oeddent yn fyw. Arferent wisgo amdo a chawsant eu disgrifio fel creaduriaid chwyddedig gyda phryd a gwedd cochlyd neu dywyll, sy'n wahanol iawn i'r darlun cyfoes o fampir. Erbyn heddiw, cysylltir fampirod a chreaduriaid tenau o ran maint a gwelw o ran lliw eu croen. Er bod son am greaduriaid tebyg i fampirod yn y rhan fwyaf o ddiwylliannau, ni ddaeth y term "fampir" yn gyffredin" tan ddechrau'r 18g, ar ôl dyfodiad ofergoelion o Ddwyrain Ewrop lle'r oedd chwedlau am fampirod yn fwy cyffredin. Daeth nifer o'r chwedlau o'r Balcanau, ond cafwyd creaduriaid tebyg o enwau gwahanol fel y vampir (вампир) yn Serbia, vrykolakas yng Ngwlad Groeg a'r strigoi yn Rwmania. Arweiniodd hyn at gynnydd yng nghred pobl mewn fampirod ac o ganlyniad, lladdwyd rhai pobl trwy yrru gwaywffon trwy eu calonnau wedi iddynt gael eu cyhuddo o fampiraeth.
Yn fwy diweddar, fodd bynnag, ystyrir y fampir yn greadur dychmygol, er fod rhai pobl yn dal i gredu mewn creaduriaid tebyg i fampirod, fel y chupacabra mewn rhai diwylliannau.
Crewyd y ddelwedd fodern a charismatig o'r fampir a welir mewn llenyddiaeth gyfoes ym 1819 pan gyhoeddwyd The Vampyre gan John Polidori; roedd y stori yn hynod lwyddiannus ac o bosib, dyma oedd y llenyddiaeth fampir mwyaf dylanwadol ar ddechrau'r 19g.[1] Fodd bynnag, nofel Bram Stoker, Dracula (1897) a ystyrir fel y nofel fampir enwocaf a'r nofel hon a greodd y chwedloniaeth fampiraidd gyfoes. Arweiniodd llwyddiant y llyfr hwn at fath newydd o lenyddiaeth fampir, sy'n parhau i fod yn boblogaidd yn yr 21g, gyda llyfrau, ffilmiau a rhaglenni teledu yn parhau i ddenu gwylwyr. Mae'r fampir yn ffigwr blaenllaw ym myd arswyd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Silver & Ursini, The Vampire Film, tt. 37-38.