Llenor, athro, golygydd, ac offeiriad Wcreinaidd a ymfudodd i Ganada oedd Vasyl Kudryk (13 Hydref 18807 Hydref 1963). Roedd yn un o lenorion cyfnod cyntaf llenyddiaeth Wcreineg Canada.

Vasyl Kudryk
Ganwyd13 Hydref 1880 Edit this on Wikidata
Tsebriv Edit this on Wikidata
Bu farw7 Hydref 1963 Edit this on Wikidata
Winnipeg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstria-Hwngari, Canada Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Tsebriv yn ardal Ternopil yn Nheyrnas Galisia a Lodomeria, sydd heddiw yn rhan o orllewin yr Wcráin. Ymfudodd Kudryk i Ganada yn 1903 ac ymsefydlodd ger Tolstoi, Manitoba. Gweithiodd fel athro mewn ysgolion gwledig Wcreineg ym Manitoba. Cyhoeddwyd ei straeon byrion a'i erthyglau yn y wasg Wcreineg, ac ymgasglodd ei farddoniaeth yn y gyfrol Vesna (1911). Cyfranodd at sefydlu eglwys annibynnol yng Nghanada o Eglwys Uniongred Roeg yr Wcráin, a chafodd ei ordeinio'n offeiriad yn 1923. Gweithiodd yn y swydd honno yn Alberta a Saskatchewan. Roedd yn olygydd y cylchgronau crefyddol Ukraïns’kyi holos (1910–21) a Visnyk (1941–54), ac yn awdur gweithiau polemig megis Chuzha ruka (1935) a Malovidome z istoriï uniiats’koï tserkvy (4 cyfrol; 1952–6). Bu farw yn Winnipeg yn 82 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Kudryk, Vasyl", Internet Encyclopedia of Ukraine. Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2018.