Duw hynafol yn niwylliant crefyddol Celtaidd oedd Verostonos (neu Vernostonus), a addolwyd ym Mhrydain Rufeinig. Mae ganddo gysylltiadau â'r wernen. Darganfu cerrig allor a gysegrwyd iddo yn y Deyrnas Unedig, megis y garreg allor yn Ebchester yn Swydd Durham (RIB 1102, DEO VERNOSTONO COCIDIO VIRILIS GER V S L).[1] Ynghyd â Cocidius ar yr arysgrif, awgrymir iddo hefyd fod yn dduw rhyfel.

Etymoleg

golygu

Mae'n bosibl bod Vernostonos yn deillio o *Werno-stonos y Proto-Gelteg, sy'n golygu 'Griddfan Coed Gwern' (cf. [2] Archifwyd 2006-01-14 yn y Peiriant Wayback [3] Archifwyd 2011-05-14 yn y Peiriant Wayback [4] ).

Ffynonellau

golygu