Enw ar amldduwiaeth, mytholeg a thraddodiadau crefyddol a arddelai gan y Celtiaid cyn dyfodiad Cristnogaeth yw crefydd Geltaidd.

Cernunnos, duw corniog y Celtiaid
Epona, 3edd ganrif OC, o Freyming (Moselle), Ffrainc (Musée Lorrain, Nancy)

Amldduwiaeth

golygu

Yn debyg i bobloedd eraill Ewrop yn ystod Oes yr Haearn, mythau a chrefydd amldduwiol oedd gan y Celtiaid. Roedd amldduwiaeth Geltaidd yn cynnwys nifer fawr o dduwiau. Duwiau lleol oedd llawer o'r rhain, a'u dylanwad wedi ei gyfyngu i lecyn arbennig. Ar y llaw arall roedd rhai duwiau oedd yn cael eu haddoli dros ardal eang iawn. Er enghraifft mae Lleu yng Nghymru yn cyfateb i Lugh yn Iwerddon a Lugos yng Ngâl. Mae'r "Dinlle" yn yr enw Dinas Dinlle yn ei hanfod yr un enw â Lugdunum, hen enw dinas Lyon. Ymddengys fod Epona, duwies ceffylau'r Galiaid (cymharer y gair "ebol" yn Gymraeg) yr un dduwies a Macha yn Iwerddon a Rhiannon yng Nghymru. Mae nifer o'r cymeriadau ym Mhedair Cainc y Mabinogi, fel Lleu a Rhiannon, i bob golwg yn dduwiau Celtaidd wedi eu troi yn gymeriadau o gig a gwaed. Esiampl arall yw Manawydan fab Llŷr, sy'n cyfateb i dduw'r môr, Manannán mhac Lir, yn Iwerddon. Uniaethir Mabon fab Modron yn chwedl Culhwch ac Olwen a'r duw Maponos, a enwir ar nifer o arysgrifau yng Ngâl a Phrydain. Un o'r prif dduwiau oedd y duw corniog, Cernunnos, efallai duw hela ac arglwydd y fforest.[1] Elfen arall oedd yn adnabyddus trwy'r byd Celtaidd oedd y triawd o fam-dduwiesau.[2]

Mytholeg

golygu

O ran y Celtiaid oedd mewn cysylltiad agos â Rhufain hynafol, gan gynnwys y Galiaid a'r Celtiberiaid, ni lwyddodd eu chwedloniaeth i oroesi gorchfygiadau'r Ymerodraeth Rufeinig, na'r dröedigaeth at Gristnogaeth, na cholled eu hieithoedd brodorol. Trwy ffynonellau Rhufeinig a Christnogol y cyfnod mae'r fytholeg hon wedi ei chadw yn bennaf. Parhaodd weddillion yr hen fytholeg ymhlith y bobloedd Geltaidd a gadwant eu hieithoedd, eu strwythurau cymdeithasol a'u hannibyniaeth wleidyddol, megis y Gaeliaid yn Iwerddon a'r Alban a'r Brythoniaid yng Nghymru, Cernyw a Llydaw, a rhoddwyd y straeon hynny ar ffurf ysgrifenedig yn ystod yr Oesoedd Canol.

Offeiriaid a defodau

golygu

Mae awduron Rhufeinig yn cysylltu'r Celtiaid a'r Derwyddon ac yn cyfeirio at seremonïau crefyddol mewn llwyni coed sanctaidd. Ceir cyfeiriad at hyn yn hanes Tacitus am ymosodiad y Rhufeiniad dan Suetonius Paulinus ar Ynys Môn yn 60 OC.[3] Yn ôl Poseidonius ac awduron eraill roedd tri dosbarth yn gyfrifol am grefydd a diwylliant Gâl, y derwyddon, y beirdd a'r vates.[4] Dywed rhai awduron Rhufeinig, er enghraifft Iŵl Cesar a Plinius yr Hynaf, fod y Celtiaid yn aberthu bodau dynol i'r duwiau.[5] Yn ôl Cesar, roedd Derwyddiaeth wedi dechrau ym Mhrydain ac wedi lledaenu i Gâl.[6]

Gwyliau

golygu

Roedd pedair prif ŵyl yn y flwyddyn Geltaidd: "Imbolc" ar 1 Chwefror, yn gysylltiedig â'r dduwies Brigit ("Ffraid" yn Gymraeg); "Bealtaine" ar 1 Mai, cysylltiedig â ffrwythlondeb ac efallai â duw'r haul, Bel; "Lugnasad" ar 1 Awst yn gysylltiedig â'r cynhaeaf a'r duw Lleu a "Samhain", y pwysicaf o'r pedair, ar 31 Hydref/1 Tachwedd.[7] Ar ŵyl Samhain roedd y ffiniau rhwng y byd dynol a'r arallfyd (y byd ysbrydol) yn diflannu, syniad sy'n parhau i raddau yn rhai o arferion dathlu Gŵyl Calan Gaeaf. Calendr Coligny o Ffrainc, a ysgrifennwyd yng Ngaeleg, yw'r brif ffynhonnell ar gyfer y calendr Celtaidd. Dywed Iŵl Cesar eu bod yn mesur cyfnodau amser yn ôl nosweithiau yn hytrach na dyddiau, rhywbeth sydd efallai wedi goroesi yn y gair Cymraeg "pythefnos".[8]

Cristioneiddio

golygu

Cyrhaeddodd Cristnogaeth rannau mwyaf dwyreiniol y byd Celtaidd yn gynnar iawn; er enghraifft ysgrifennodd Yr Apostol Paul ei Epistol at y Galatiaid cyn 64 OC. Roedd Cristnogaeth wedi ei sefydlu yn y rhannau Celtaidd o'r Ymerodraeth Rufeinig erbyn y 4g,[9] a chenhadwyd Iwerddon yn y 5g. Credir fod rhai nodweddion o'r hen amldduwiaeth Geltaidd wedi goroesi yn nhraddodiadau, llên gwerin a llenyddiaeth y gwledydd Celtaidd i'r cyfnod Cristnogol a bod ei holion i'w gweld yn y chwedlau llenyddol, e.e. Pedair Cainc y Mabinogi, mewn chwedlau gwerin ac mewn arferion gwlad yn enwedig mewn perthynas â gwyliau, e.e. Calan Mai. Credir hefyd fod rhai o'r seintiau Celtaidd cynnar yn cynrychioli duwiau a duwiesau a Gristioneiddwyd, e.e. Ffraid/Brigit, neu fod eu bucheddau ysgrifenedig a thraddodiadau eraill amdanynt yn cynnwys elfennau sy'n deillio o'r hen grefydd.

Adferiad neo-baganaidd

golygu

Mae rhai ffurfiau ar neo-baganiaeth yn ceisio adfer agweddau o grefydd Geltaidd, gan gynnwys derwyddiaeth fodern, Adferiadaeth Geltaidd, ac Wica Geltaidd.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Davies Y Celtiaid t. 81
  2. Anne Ross "Y diwylliant Celtaidd" yn Bowen (gol) Y Gwareiddiad Celtaidd tt. 109-10
  3. Cornelius Tacitus Annales XIV
  4. Dyfyniad yn Freeman The philosopher and the druids t. 158
  5. Iŵl Cesar Commentarii de Bello Gallico 6.16
  6. Iŵl Cesar Commentarii de Bello Gallico 6.13
  7. Freeman tt. 100-1
  8. Iŵl Cesar Commentarii de Bello Gallico 6.18
  9. E.G. Bowen "Cristnogaeth gynnar yng Ngâl a gwledydd Celtaidd y gorllewin" yn Bowen (gol) Y Gwareiddiad Celtaidd t. 137

Llyfryddiaeth

golygu

Ceir nifer fawr o lyfrau ar amldduwiaeth a chrefydd y Celtiaid. Mae eu gwerth yn amrywio; rhoddir yma ddetholiad byr o gyfrolau safonol.

  • N. K. Chadwick, The Druids (Caerdydd, 1966)
  • P. Mac Cana, Celtic Mythology (Dulyn, 1983)
  • A. D. a B. Rees, Celtic Heritage (Llundain, 1961)
  • Anne Ross, Pagan Celtic Britain (Llundain, 1967)
  • Gwyn Thomas, Duwiau'r Celtiaid (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1992)