Sefydliad cefnogi ffermwyr, rhyngwladol a sefydlwyd yn 1993 ym Mons, Gwlad Belg, yw La Vía Campesina (o Sbaeneg: la vía campesina, llythrennol: Yn Null y Werin). Ffurfiwyd y mudiad o 182 o sefydliadau mewn 81 o wledydd, ac mae'n disgrifio'i hun fel "mudiad rhyngwladol sy'n cydlynu sefydliadau gwerinol o gynhyrchwyr bach a chanolig, gweithwyr amaethyddol, menywod gwledig, a chymunedau brodorol o Asia, Affrica, America ac Ewrop".[1]

Via Campesina
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1993 Edit this on Wikidata
PencadlysBagnolet Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://viacampesina.org, https://viacampesina.org/fr, https://viacampesina.org/es/ Edit this on Wikidata

Mae Via Campesina yn eiriol dros amaethyddiaeth gynaliadwy deuluol ar y fferm, a dyma'r grŵp a fathodd y term "sofraniaeth bwyd".[1] Mae La Vía Campesina yn cynnal ymgyrchoedd i amddiffyn hawl y ffermwr i hadau, ymgyrchoedd atal trais yn erbyn menywod, ymgyrchoedd dros ddiwygio amaethyddol, ac yn gyffredinol ar gyfer cydnabod hawliau gwerinwyr.[2]

Hanes golygu

Cefndir a dull gweithredu golygu

 
     Map o wledydd sy'n lle ceir mudiad sy'n aelod o La Vía Campesina

Gan ddechrau yn y 1980au roedd llywodraethau yn ymyrryd llai yng nghefn gwlad, ac roedd hyn yn gwanhau rheolaeth gorfforaethol dros sefydliadau gwerinol ac yn gwneud bywoliaeth mewn amaethyddiaeth yn anoddach.[3] O ganlyniad, dechreuodd grwpiau gwerin cenedlaethol ffurfio cysylltiadau â sefydliadau trawswladol, gan ddechrau yn America Ladin ac yna ar raddfa fyd-eang.[3]

Daeth mudiad hawliau'r werin i'r amlwg o'r eiriolaeth dros hawliau newydd (the new rights advocacy) a oedd wedi codi yn y 1990au; yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd agendâu hawliau dynol a datblygu eu hintegreiddio.[4] Symudodd mudiad y werin amaethyddol i herio ideoleg hegemonaidd neoliberaliaeth mewn economeg fyd-eang ac i ddod o hyd i ddewisiadau eraill a fyddai'n amddiffyn hawliau gweithwyr ledled y byd.[4]

Mae'r mudiad wedi tyfu ac mae bellach yn cael ei gydnabod fel rhan o'r ddeialog fyd-eang ar fwyd ac amaethyddiaeth. Cyflwynodd y mudiad mewn sawl fforwm rhyngwladol, megis:

  • Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig (FAO); [5]
  • Yr Undeb Rhyngwladol dros Ddiogelu Amrywiaethau Newydd o Blanhigion (UPOV); [6]
  • Cyngor Hawliau Dynol y CU (HRC); [7]
  • Sefydliad Eiddo Deallusol y Byd (WIPO).

Mae Via Campesina wedi bod yn rhan o drafodaethau[8] Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Gwerinwyr a phobl eraill sy’n byw mewn ardaloedd Gwledig, a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn Rhagfyr 2018.[9]

Blaenoriaethau golygu

Yn ôl gwefan La Via Campesina, prif faterion y mudiad yw hyrwyddo sofraniaeth bwyd; mynnu diwygio amaethyddol; rheolaeth pobl dros dir, dŵr a thiriogaethau; gwrthsefyll masnach rydd; hyrwyddo ffeministiaeth werinol, boblogaidd; cynnal hawliau dynol, hawliau gweithwyr mudol; hyrwyddo agroecoleg; hyrwyddo systemau hadu gwerinwr; a chynyddu cyfranogiad pobl ifanc mewn amaethyddiaeth.[10]

 
Aelodau benywaidd o Via Campesina yn ystod 7fed Fforwm Cymdeithasol y Byd (Nairobi, 2007)

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r mudiad wedi rhoi mwy o bwyslais ar faterion rhyw a hawliau menywod, ac wedi cryfhau ei wrthwynebiad i gorfforaethau trawswladol.[3] Mae hefyd wedi canolbwyntio ar ennill cydnabyddiaeth am y drafodaeth ynghylch sofraniaeth bwyd, adennill y term "gwerinwr" ac ail-greu hunaniaeth gwerinol a rennir ar draws ffiniau a diwylliannau cenedlaethol.[3] Mae La Vía Campesina hefyd yn partneru â mudiadau cymdeithasol eraill a sefydliadau anllywodraethol (NGOs) i gryfhau ei bresenoldeb rhyngwladol.[11]

Daw'r dewis organig a byw mwyaf systematig a chynhwysfawr i hegemonïau presennol nid o'r tyrau ifori na'r ffatrïoedd ond o'r caeau.

Rajeev Patel (2006, 90) Globalize the Struggle! Globalize Hope! – La Vía Campesina

Gwobrau golygu

Yn Nhachwedd 2018, derbyniodd La Vía Campesina 'Wobr Ryngwladol XV Navarra ar gyfer Undod' (Premio Internacional Navarra a la Solidaridad).[12]

Ym Mehefin 2018, dyfarnwyd Gwobr am Ddylanwadu Lush Spring i La Vía Campesina gan nodi ei fod yn fudiad ymreolaethol ac amlddiwylliannol, sy'n gwbl annibynnol ar unrhyw gysylltiad gwleidyddol neu economaidd.[13]

Yn 2015, derbyniodd y sefydliad wobr gan Gymdeithas Wyddonol America Ladin ar gyfer Agroecoleg (SOCLA) " i gydnabod ei waith a'i frwydr ddiflino o blaid agroecoleg a hawliau gwerinwyr, wrth gyflawni ei genhadaeth i ofalu am y ddaear, bwydo'r byd, gwarchod bioamrywiaeth ac atal newid hinsawdd, trwy ei waith dros sofraniaeth bwyd yn America Ladin."[14]

Mae La Vía Campesina yn fudiad llawr gwlad, sy'n gweithredu ar lefel leol a chenedlaethol. Daw'r aelodau o 81 o wledydd, wedi'u trefnu'n 9 rhanbarth.[7] Cynrychiolir y Pwyllgor Cydlynu Rhyngwladol gan un dyn ac un fenyw fesul rhanbarth ac un ieuenctid fesul cyfandir, pob un wedi'i ethol gan aelod-sefydliadau eu rhanbarth priodol.[7] Gyda thua 182 o sefydliadau lleol a chenedlaethol yn rhan o'r mudiad, amcangyfrifir bod La Via Campesina yn cynrychioli 200 miliwn o ffermwyr ledled y byd.[7]

Darllen pellach golygu

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Global Small-Scale Farmers' Movement Developing New Trade Regimes", Food First News & Views, Volume 28, Number 97 Spring/Summer 2005, p.2.
  2. Borras Jr., Saturnino M. "La Vía Campesina and its Global Campaign for Agrarian Reform.." Journal of Agrarian Change 8, no. 2/3 (April 2008): 258-289.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Martínez-Torres, María Elena; Rosset, Peter (2010). "La Vía Campesina: the birth and evolution of a transnational social movement". The Journal of Peasant Studies 37: 149–175. doi:10.1080/03066150903498804. https://semanticscholar.org/paper/f0ebd26ba9e1891ade9ae0457d34285a6c5a00e1.Martínez-Torres, María Elena; Rosset, Peter (2010). "La Vía Campesina: the birth and evolution of a transnational social movement". The Journal of Peasant Studies. 37: 149–175. doi:10.1080/03066150903498804. S2CID 143767689.
  4. 4.0 4.1 Shawki, Noha (2014). "New Rights Advocacy and the Human Rights of Peasants: La Via Campesina and the Evolution of New Human Rights Norms". Journal of Human Rights Practice 6 (2): 311. doi:10.1093/jhuman/huu009.
  5. FAO. ""La société civile et les biotechnologies", interview of Guy Kastler, La Via Campesina, intervenant de la société civile à l'occasion du Symposium international sur le rôle des biotechnologies agricoles". Cyrchwyd 5 May 2020.
  6. UPOV (5 August 2016). "European Coordination Via Campesina (Mr. Guy Kastler), on UPOV". Cyrchwyd 5 May 2020.
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 La Via Campesina: International Peasant's Movement. Organisation. Published 9 Feb. 2011. Retrieved from <http://viacampesina.org/en/index.php/organisation-mainmenu-44 Archifwyd 2017-07-10 yn y Peiriant Wayback.>
  8. "UNITED NATIONS: Third Committee approves the UN Declaration on the Rights of Peasants and Other People Working in Rural Areas". Via Campesina. 20 November 2018. Cyrchwyd 5 May 2020.
  9. A. Wise, Timothy (24 January 2019). "UN Backs Seed Sovereignty in Landmark Peasants' Rights Declaration". Resilience. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 March 2020. Cyrchwyd 5 May 2020.
  10. "About La Via Campesina". 2016-10-28.
  11. Desmarais, Annette Aurélie (2008). "The power of peasants: Reflections on the meanings of La Vía Campesina". Journal of Rural Studies 24 (2): 138–149. doi:10.1016/j.jrurstud.2007.12.002.
  12. ""Globalising the struggle also means globalising solidarity and hope" - La Via Campesina, while accepting the XV Navarra International Prize for Solidarity". Via Campesina English (yn Saesneg). 2017-12-07. Cyrchwyd 2018-06-04.
  13. LVC, Via Campesina (2017-05-23). "Lush Spring Prize Influence Award Winner: La Via Campesina". uk.lush.com. Lush Spring Prize. Cyrchwyd 22 May 2018.
  14. "La Via Campesina receives award for "tireless struggle in favor of Agroecology"". La Via Campesina: International Peasant's Movement. 13 October 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-21. Cyrchwyd 20 November 2015.