Victoria, y Dywysoges Reiol
Roedd Victoria Adeilaide Mary Louisa (21 Tachwedd 1840 – 5 Awst 1901) yn Dywysoges Frenhinol y Deyrnas Unedig ac, fel gwraig y Kaiser Friedrich III, yn ymerodres yr Almaen a brenhines Prwsia.
Victoria, y Dywysoges Reiol | |
---|---|
Ganwyd | Victoria Adelaide Mary Louisa 21 Tachwedd 1840 Palas Buckingham, Llundain |
Bu farw | 5 Awst 1901 o canser y fron Schlosshotel Kronberg |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, drafftsmon |
Swydd | Tywysoges Reiol |
Tad | Albert o Sachsen-Coburg a Gotha |
Mam | Fictoria, brenhines y Deyrnas Unedig |
Priod | Friedrich III, ymerawdwr yr Almaen |
Plant | Wilhelm II, ymerawdwr yr Almaen, Y Dywysoges Charlotte o Prwsia, y Tywysog Heinrich o Brwsia, Prince Sigismund of Prussia, Viktoria o Brwsia, Prince Waldemar of Prussia, Sophie o Brwsia, Y Dywysoges Margaret o Prwsia |
Llinach | Tŷ Sachsen-Coburg a Gotha |
Gwobr/au | Urdd yr Eryr Du, Urdd Louise, Arwisgiad Groes Goch Frenhinol |
llofnod | |
Fe'i ganed ym Mhalas Buckingham ym 1840, yn blentyn hynaf i'r frenhines Victoria a'r tywysog Albert. Hi oedd yr etifedd i orsedd y Deyrnas Unedig am y cyfnod byr cyn geni ei brawd Albert Edward (Edward VII yn hwyrach) ym 1841. Cafodd addysg ryddfrydol oddi wrth ei thad.
Ym 1858, a hithau'n 17 oed, priododd y tywysog Friedrich o Brwsia; cawsant wyth o blant. Roedd y tywysog a'r dywysoges yn ffigyrau rhyddfrydol o fewn llys Prwsia ym Merlin; roeddent am i'r deyrnas fod yn frenhiniaeth gyfansoddiadol megis un Prydain, yn hytrach na brenhiniaeth absoliwtaidd. Roeddent o ganlyn yn amhoblogaidd yn y llys ac yn wleidyddol ar ôl i Otto von Bismarck ddod i rym ym 1862.
Esgynnodd Friedrich i orsedd yr Almaen a Phrwsia ym 1888, ond teyrnasodd am 99 diwrnod yn unig cyn iddo farw o ganser y gwddf. Fe'i olynwyd gan Wilhelm II, a oedd yn fwy ceidwadol a militaraidd na'i rieni. Ar ôl marwolaeth Friedrich gelwid Victoria yn Kaiserin Friedrich ('yr ymerodres Friedrich'), ac aeth i fyw yn Kronberg im Taunus lle comisiynodd Castell Friedrichshof (Schlosshotel Kronberg heddiw) i goffáu ei gŵr. Bu farw yn y castell ym 1901.