Victoriano Huerta
Milwr a gwleidydd o Fecsico oedd Victoriano Huerta (23 Rhagfyr 1854 – 13 Ionawr 1916) a fu'n Arlywydd Mecsico o 18 Chwefror 1913 i 15 Gorffennaf 1914.
Victoriano Huerta | |
---|---|
Victoriano Huerta yn ei wisg filwrol | |
Ganwyd | 22 Rhagfyr 1850, 22 Rhagfyr 1854 Colotlán |
Bu farw | 13 Ionawr 1916 o sirosis El Paso |
Dinasyddiaeth | Mecsico, Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, person milwrol |
Swydd | Arlywydd Mecsico, Secretary of Foreign Affairs of Mexico, gweinidog tramor |
Priod | Emilia Águila Moya |
Ganed i deulu brodorol yn Colotlán, Jalisco. Ymunodd â'r fyddin a derbyniodd ei hyfforddiant yng Ngholeg Milwrol Chapultepec. Dyrchafwyd yn gadfridog dan yr Arlywydd Porfirio Díaz a chafodd yrfa filwrol hir a disglair yn ystod cyfnod y Porfiriato. Er yr oedd yn gefnogwr pybyr o'r Arlywydd Díaz, cytunodd Huerta i wasanaethu yn bennaeth staff y fyddin dan ei olynydd, yr Arlywydd Francisco Madero, yn sgil chwyldro 1911. Yn sgil miwtini yn erbyn Madero yn Ninas Mecsico yn Chwefror 1913, trodd Huerta yn ei erbyn a gorfododd iddo ymddiswyddo. Wedi i Huerta gipio'r arlywyddiaeth, gorchmynnodd lofruddiaeth Madero, diddymodd y ddeddfwrfa, a sefydlodd ei hun yn unben milwrol ar Fecsico.[1]
Wynebodd Huerta wrthwynebiad oddi wrth y Cyfansoddiadwyr dan arweiniad Venustiano Carranza, Álvaro Obregón, Pancho Villa, ac Emiliano Zapata. Enillasant gefnogaeth Woodrow Wilson, Arlywydd yr Unol Daleithiau, a anfonodd luoedd Americanaidd i feddiannu Veracruz ym 1914. Yn sgil buddugoliaeth y Cyfansoddiadwyr, ymddiswyddodd Huerta ar 15 Gorffennaf 1914 a ffoes i Sbaen. Aeth i'r Unol Daleithiau ym 1915 ac yno fe'i arestiwyd ar gyhuddiadau o ennyn gwrthryfel ym Mecsico. Bu farw yn y ddalfa yn Fort Bliss, El Paso, Texas, yn 61 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Victioriano Huerta. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Chwefror 2021.