Gwleidydd a milwr o Fecsico oedd Álvaro Obregón (19 Chwefror 188017 Gorffennaf 1928) a fu'n gadfridog yn Chwyldro Mecsico ac yn Arlywydd Mecsico o 1920 i 1924.

Álvaro Obregón
Ganwyd19 Chwefror 1880 Edit this on Wikidata
Navojoa Edit this on Wikidata
Bu farw17 Gorffennaf 1928 Edit this on Wikidata
San Ángel Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Mecsico, gweinidog Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolMexican Laborist Party Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Cordon Prif Urdd yr Eurflodyn Edit this on Wikidata

Ganwyd ger Navojoa yn nhalaith Sonora yng ngogledd Mecsico. Ni chafodd fawr o addysg, a gweithiodd yn ffermwr ac yn llafurwr yn ei ieuenctid. Ni chymerodd ran yn Chwyldro Mecsico yn y cyfnod 1910–11, pryd gafodd yr unben Porfirio Díaz ei ddymchwel, ond yn 1912 ymunodd â'r gwrthdaro i arwain criw o gefnogwyr yr Arlywydd Francisco Madero yn erbyn gwrthryfel Pascual Orozco. Yn sgil llofruddiaeth Madero gan Victoriano Huerta yn Chwefror 1913, gwasanaethodd Obregón yn lluoedd Venustiano Carranza yn yr ymgyrch yn erbyn Huerta. Cafodd sawl buddugoliaeth yn erbyn lluoedd Huerta, a chipiodd Dinas Mecsico ar 15 Awst 1914.[1]

Arweiniodd Obregón luoedd Carranza yn erbyn y gwrthryfelwyr Pancho Villa ac Emiliano Zapata, a chollodd ei fraich dde mewn un frwydr yn 1915. Yn ogystal â'i ymgyrchoedd milwrol, rhodd Obregón ddiwygiadau gwleidyddol ar waith yn y tiroedd a enillodd oddi ar Villa, gan gynnwys polisïau gwrthglerigol a rheoliadau llafur. Obregón oedd prif ffigur y gynhadledd gyfansoddiadol yn 1917, a gwasanaethodd y flwyddyn honno yng nghabinet yr Arlywydd Carranza. Dychwelodd i'w fferm yn Sonora am ddwy flynedd, gan roi'r gorau i fyd gwleidyddiaeth am gyfnod.[1]

Yn Ebrill 1920, mewn ymateb i bolisïau Carranza a'i ymdrechion i osod ei olynydd, ymunodd Obregón â'r ymdrech i ddisodli'r arlywydd, gan ddod â diwedd i Chwyldro Mecsico ym Mai 1920. Ar 1 Rhagfyr 1920, etholwyd Obregón yn arlywydd Mecsico, a bu ei bedair mlynedd yn y swydd yn heddychlon o gymharu â'r ddeng mlynedd gynt. Penodwyd José Vasconcelos yn weinidog addysg, a fe lansiodd ymgyrch eang i ddiwygio ysgolion Mecsico. Daeth ei dymor yn y swydd i ben ar 1 Rhagfyr 1924, ac ildiodd yr arlywyddiaeth i Plutarco Elías Calles. Dychwelodd i Sonora a sefydlodd fonopoli ar gynhyrchu ffacbys drwy ei ffermydd ar draws gogledd Mecsico. Ymgyrchodd am yr arlywyddiaeth unwaith eto yn 1928, ac enillodd yr etholiad er gwaethaf gwrthryfel arall yn y wlad. Cyn iddo gymryd yr awenau am yr ail dro, cafodd ei saethu'n farw mewn bwyty yn Ninas Mecsico gan José de León Toral, Catholig a oedd yn beio Obregón am erledigaeth grefyddol.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Álvaro Obregón. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Medi 2019.