Vincent Kane

darlledwr teledu ac awdur

Darlledwr ac awdur Cymreig yw Vincent Kane, OBE (ganwyd 13 Ionawr 1935, yng Nghaerdydd), a adnabyddir yn bennaf am ei yrfa gyda'r BBC. Bu'n gadeirydd Canolfan Ansawdd Cymru, Gŵyl Theatr Cerdd Ryngwladol a'r Cardiff Initiative.

Vincent Kane
Ganwyd13 Ionawr 1935 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Yn 1960, fe enillodd Kane wobr ddadlau 'Mace' papur newydd yr Observer, yn siarad gyda Mary O'Neill[1] yn cynrychioli Prifysgol Caerdydd.

Mae Kane yn fwyaf adnabyddus am ei waith fel cyflwynydd a chyfwelydd gyda'r BBC, lle fu'n gweithio am bron 36 mlynedd. Cyflwynodd raglenni teledu fel Wales Today a Week In Week Out ac ar y radio cyflwynodd Good Morning Wales a Meet For Lunch (BBC Radio Wales). Roedd yn adnabyddus am ei dechneg holi treiddgar a chadarn mewn arddull Paxmanaidd, er bod hynny flynyddoedd cyn i Paxman wneud ei enw ar deledu.[2] Cychwynnodd Kane fel gohebydd ar Wales Today yn 1962, ac fe aeth ymlaen i fod yn gyflwynydd cyntaf Week In Week Out yn 1964,[3] y rhaglen materion cyfoes wythnosol. Dychwelodd i gyflwyno Wales Today rhwng 1986 a 1993, gan adael BBC Wales yn 1998.

Ym Mehefin 1998 rhoddwyd iddo Order of the British Empire (OBE) am "wasanaethau i Ddarlledu yng Nghymru".[4]

Sefydlodd Kane Ganolfan Ansawdd Cymru yng nghanol yr 1980au, gan ymddeol o'i rôl cadeirydd yn Rhagfyr 2012.[5]

Bywyd personol golygu

Mae'n briod â Mary, ac mae ganddynt tri o blant. Maent byw yn Cyprus.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Winners of the John Smith Memorial Mace, Archifwyd 2014-11-12 yn y Peiriant Wayback. 2004; Adalwyd 24 Tachwedd 2015
  2. Matt Thomas, 'We didn't have rules; During his remarkable broadcasting career, Vincent Kane interviewed Richard Burton and covered some of the biggest news stories of the 20th century', Western Mail, 15 Mai 2010.
  3. Vincent Kane, hippies, mini-skirts and a legend, BBC South West Wales; 13 Mai 2010.
  4. O.B.E.[dolen marw], Atodiad i'r London Gazette, 11 Mehefin 1988.
  5. Eoghan Mortell, Vincent Kane’s long good-bye Archifwyd 2014-08-17 yn y Peiriant Wayback., Blog Click on Wales (Sefydliad Materion Cymru).
  6. (Saesneg) Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. Vale Life (3 Hydref 2019). Adalwyd ar 25 Medi 2020.