Volodymyr Antonovych
Hanesydd, archaeolegydd, ac ethnograffwr o Wcráin oedd Volodymyr Antonovych (Wcreineg: Володимир Антонович; 18 Ionawr [30 Ionawr yn yr Hen Ddull] 1834 – 8 Mawrth [21 Mawrth] 1908).
Volodymyr Antonovych | |
---|---|
Yr Athro Volodymyr Antonovych | |
Ganwyd | Володимир-Станіслав-Йосип Боніфатійович Антонович 6 Ionawr 1834 (yn y Calendr Iwliaidd) Makhnivka, Chernobyl |
Bu farw | 8 Mawrth 1908 (yn y Calendr Iwliaidd) o niwmonia Kyiv |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ethnolegydd, hanesydd |
Cyflogwr | |
Priod | Kateryna Antonovych-Melnyk |
Plant | Dmytro Antonovych |
Gwobr/au | Urdd Santes Anna, Ail Ddosbarth, Urdd Sant Anna, Ail Ddosbarth, Urdd Sant Vladimir, 3ydd Dosbarth |
llofnod | |
Ganed ef ym mhentref Makhnivka yn Llywodraethiaeth Kyiv, Ymerodraeth Rwsia, a leolir bellach yn Oblast Vinnytsia, Wcráin. Bonedd o dras Bwylaidd a oedd wedi colli eu cyfoeth oedd ei deulu. Graddiodd o gyfadran feddygaeth Prifysgol Kyiv ym 1855, a derbyniodd radd arall mewn hanes ac ieitheg ym 1860. Wedi hynny, torrodd gysylltiadau â'r cylch Pwylaidd yn Kyiv, ac ymroddai ei hun i'r achos Wcreinaidd. O ran ei wleidyddiaeth, poblydd ydoedd, a bu'n bennaeth ar gyfrinfa'r Hromada yn Kyiv ac yn brif ideolegydd y mudiad khlopoman. Am ryw hanner can mlynedd, byddai'n weithgar yn ei gymuned ac yn ymgyrchu dros gydweithio rhwng y mudiad Wcreinaidd yn Kyiv ac yn Galisia i'r gorllewin.[1]
Yn ystod ei yrfa academaidd—a fyddai'n cynnwys 30 mlynedd yn athro hanes ym Mhrifysgol Kyiv—câi Antonovych ddylanwad pwysig ar ddatblygiad hanesyddiaeth Wcráin. O 1863 i 1880 gwasanaethodd yn brif olygydd Comisiwn Archaeo-ddaearyddol Kyiv, ac yn y swydd honno fe arolygai Arkhiv Iugo-Zapadnoi Rossii ("Archif De-Orllewin Rwsia"), gwaith mewn 15 cyfrol sydd yn cynnwys deunyddiau o hanes y rhanbarthau i orllewin Afon Dnieper o'r 16g i'r 18g. Fe'i penodwyd yn athro hanes ym 1870, a chyda sawl un o'i fyfyrwyr—yn eu plith Dmytro Bahalii, Mytrofan Dovnar-Zapolsky, Mykhailo Hrushevsky, Ivan Kamanin, ac Ivan Lynnychenko—sefydlodd yr Athro Antonovych fudiad ysgolheigaidd newydd a elwir ysgol hanesyddol Kyiv. Cyhoeddodd rhyw 300 o weithiau ysgolheigaidd yn ystod ei yrfa, gan gynnwys astudiaethau o Uchel Ddugiaeth Lithwania, hanes dinesig Kyiv o'r 14g i'r 16g, ymdriniaeth ag Undeb Brest a'i effaith ar yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, ymchwil i ddechreuad y bendefigaeth Wcreinaidd, a thraethodau ar hanes y Cosaciaid, yr haidamaky, a'r werin Wcreinaidd. Cychwynnodd hefyd ar brosiectau i astudio archaeoleg Wcráin mewn modd systematig, a lluniodd fapiau archaeolegol manwl o lywodraethiaethau Kyiv a Volhynia.[1]
Yn nechrau'r 1890au, cynorthwyodd Antonovych wrth sefydlu Cymdeithas Wyddonol Shevchenko. Ym 1893 cynigwyd iddo gadair athro newydd mewn hanes Wcráin ym Mhrifysgol Lviv, ond gwrthododd y cyfle oherwydd afiechyd; cefnogodd ei hen fyfyriwr, Mykhailo Hrushevsky, gael ei benodi i'r swydd yn ei le. Ymddeolodd o Brifysgol Kyiv ym 1900, a threuliodd ei flynyddoedd olaf yn ymchwilio i ddogfennau yn Archifau'r Fatican.[1] Bu farw Volodymyr Antonovych yn 74 oed.