Mae Voyager 1 sy'n pwyso 722-kilogram (1,592 pwys) yn chwiliedydd gofod a lawnsiwyd gan NASA o Ganolfan Ofod, Kennedy, Fflorida ar 5 Medi 1977 ar berwyl i hedfan heibio'r planedau Iau a Sadwrn. Gyda chwiliedydd arall, Voyager 2, roedd Voyager 1[1] yn gyfrifol am dynnu'r lluniau gorau o'r planedau a'u lloerennau ac yn sgil y lluniau hyn, darganfuwyd llosgfynyddoedd ar Io, a gwnaethpwyd y mesuriadau mwyaf manwl o awyrgylch y lloeren Titan gan y ddau chwiliedydd. Ar hyn o bryd mae Voyager 1 ar ei ffordd allan o Gysawd yr Haul trwy wregys Kuiper a hi yw'r roced sydd wedi teithio bellaf o'r Ddaear erioed.[2][3]

Voyager 1
Enghraifft o'r canlynolchwiliedydd gofod Edit this on Wikidata
Màs815 cilogram, 733 cilogram Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Rhan oRhaglen Voyager Edit this on Wikidata
Olynwyd ganVoyager 2 Edit this on Wikidata
GweithredwrNASA Edit this on Wikidata
GwneuthurwrLabordy Propulsion Jet Edit this on Wikidata
Pellter o'r Ddaear155.653 uned seryddol Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://voyager.jpl.nasa.gov Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Voyager 1

Record Aur golygu

Cariodd y roced (fel Voyager 2 o'i blaen) record aur yn llawn o wybodaeth rhag ofn o fodau arallfydol ddod ar ei thraws. Ar y ddisg roedd lluniau o'r Ddaear, anifeiliaid, gwybodaeth gwyddonol a chyfarchion mewn amryw o ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg: (Iechyd da i chwi yn awr, ac i'r oesoedd)[4]. Cynhwyswyd arni hefyd synau gwahanol: morfilod, plentyn yn crio, tonnau'r môr ac yn y blaen.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Voyager (1 a 2) (NASA)". Jet Propulsion Laboratory (NASA). 2017. Cyrchwyd 15 Medi 2017.
  2. Clark, Stuart (13 Medi 2013). "Voyager 1 leaving solar system matches feats of great human explorers". The Guardian.
  3. "Voyagers are leaving the Solar System". Space Today. 2011. Cyrchwyd 39 Mai 2014. Check date values in: |accessdate= (help)
  4. "Y Gymraeg yn y gofod". BBC Cymru Fyw. 15 Medi 2017.