W. E. Oakeley

(Ailgyfeiriad o W.E. Oakeley)

Perchennog Chwarel yr Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog oedd William Edward Oakeley (1 Awst 18281 Chwefror 1912).[1]

W. E. Oakeley
Ganwyd1 Awst 1828 Edit this on Wikidata
Bu farw1 Chwefror 1912 Edit this on Wikidata
Alma mater
TadWilliam Oakeley Edit this on Wikidata
MamMary Maria Miles Edit this on Wikidata
PriodMary Russell, Baroness de Clifford Edit this on Wikidata
PlantEdward de Clifford William Oakeley, Mary Caroline Oakeley Edit this on Wikidata

Roedd yn fab i William Oakeley (1798–1834) a Mary Maria Miles, ac yn ŵyr i Syr Charles Oakeley, Barwnig 1af Amwythig. Etifeddodd ystad Tanybwlch yn 1868 gan gweddw cefnder ei dad gan y bu farw'n ddi blant.[2]

Addysgwyd ef yn Eton a Rhydychen, cyn priodi Mary Russell ym 1860. Cliffe House, Twycross Swydd Gaerlŷr, ger Atherstone Swydd Warwick oedd ei prif gartref. Yn ystod cyfrifiad 1881, roedd yn byw yno gyda'i wraig a'i ferch ac athrawes a 12 gwas/morwyn, disgrifwyd ei alwedigaeth ar y pryd fel perchennog tiriog.[3]

Bu farw ar 1 Chwefror 1912, a claddwyd ar 6 Chwefror. Datganwyd ei farwolaeth yn The Times, a chwe diwrnod yn ddiweddarach, cyhoeddwyd disgrifiad o'r orymdaith. Cludwyd ei arch o'i gartref yn Cliffe House i Flaenau Ffestiniog ar y rheilffordd ac yna ar lori i fynwent eglwys Sant Twrog ym Maentwrog. Dilynwyd y lori gan ganoedd o weithwyr o Chwarel yr Oakeley.[4][5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Manylion coeden teulu W.E. Oakeley
  2.  Perchnogion Chwareli Llechi - Chwareli Meirionnydd. Llechwefan.
  3. Cyfrifiad 1881 - Cliff House, Twycross, Leicester (RG11 3134/129 Page 2) Occupation: Landed Proprietor, gyda'i wraig, ei ferch, athrawes a 12 gwas/morwyn
  4. The Times, 5 Chwefror 1912:
    "Oakeley. - On the 1st. Feb., at Cliff House, near Atherstone, William Edward Oakeley, in his 84th year. No flowers."
  5. The Times, 7 Chwefror 1912:
    "The funeral of Mr William Oakeley, of the Plas, Tan-y-Bwlch, Merionethshire, and Cliffe House, Atherstone, took place yesterday at St Twrog Churchyard, Maentwrog. The coffin was taken from Atherstone to Festiniog by rail, and thence to Maentwrog on a lorry, which was followed by hundreds of workmen from the Oakeley quarries."



   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.