Mae Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru a adnebir fel rheol wrth dalfyriad, Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods; WISERD yn ganolfan ymchwil gwyddorau cymdeithasol ryngddisgyblaethol gyda'i ganolfan weinyddol ym Mhrifysgol Caerdydd. Ei nod yw tynnu ynghyd ac adeiladu ar yr arbenigedd presennol mewn dulliau a methodolegau ymchwil meintiol ac ansoddol. Gellid ei ystyried yn felin drafod.

WISERD
Enghraifft o'r canlynolcanolfan ymchwil, sefydliad ymchwil Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthCaerdydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.wiserd.ac.uk/ Edit this on Wikidata
Prif adeilad Prifysgol Caerdydd. Lleolir WISERD o fewn y Brifysgol er ei fod yn gorff cenedlaethol

Mae'r sefydliad yn fenter gydweithredol rhwng Prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth, Bangor a De Cymru. Darperir cyllid ar y cyd gan Llywodraeth Cynulliad Cymru (drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a adnebir yn aml gan ei thalfyriad Saesneg, HEFCW), a'r Economic and Social Research Council y DU (ESRC).[1]

Sefydlwyd WISERD yn 2008. Ei gyfarwyddwr presennol yw'r Athro Ian Rees Jones.[2]

Cennad golygu

Prif nodau WISERD yw:

  • Datblygu ansawdd a maint ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru, yn enwedig trwy brosiectau ymchwil a ariennir yn allanol
  • Hyrwyddo gweithgarwch ymchwil cydweithredol ar draws y prifysgolion sy'n cymryd rhan ac ar draws disgyblaethau a sectorau
  • Datblygu seilwaith ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru
  • Cryfhau effaith ymchwil y gwyddorau cymdeithasol ar ddatblygiad polisi yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector trwy ganolbwyntio ar gyfnewid gwybodaeth ac ymgysylltu

Mae WISERD yn ceisio cyflawni'r nodau hyn trwy ddwy raglen: rhaglen ymchwil a rhaglen seilwaith ymchwil.

Mae rhaglen ymchwil WISERD yn cynnwys gweithgareddau o wyddoniaeth sylfaenol i brosiectau ymchwil cymhwysol, o fewn y themâu allweddol canlynol: Cymdeithas Sifil; Addysg; Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol; Anghydraddoldebau Economaidd a Chymdeithasol; Ardaloedd; a Data a Dulliau.[3]

Cydweithio tramor golygu

Mae WISERD yn cynnal trafodaethau a gweithgaredd rhyngwladol. Cynhaliwyd drafodaeth ar-lein ar y Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng Cymru a Gwlad y Basg yn 2023.[4]

Cymdeithas Sifil WISERD golygu

Canolfan ymchwil yw Cymdeithas Sifil WISERD, a lansiwyd ym mis Hydref 2014 ac a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Mae'n cynnal rhaglen bum mlynedd o ymchwil sy'n mynd i'r afael â Chymdeithas Sifil yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.[5]

Ei phedair thema ymchwil yw:

  • Ardal, Cymuned a Chymdeithas Sifil;
  • Sefydliadau a Llywodraethu;
  • Cyni Economaidd, Menter Gymdeithasol a Chydraddoldeb; a
  • Cenhedlaeth, Cwrs Bywyd a Chyfranogiad Cymdeithasol.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. WISERD official website
  2. "WISERD :: Prof. Ian Rees Jones". wiserd.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-15.
  3. "Research".
  4. "Welsh & Basque Cooperation Online Workshop". Sianel WISERD. 5 Mai 2023.
  5. "WISERD :: WISERD Civil Society". www.wiserd.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-18.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.