Llyfr Saesneg gan yr athronydd Americanaidd Henry David Thoreau yw Walden (teitl llawn: Walden; or, Life in the Woods). Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 1854. Mae'r testun yn fyfyrdod o fyw syml mewn amgylchedd naturiol. Mae'n disgrifio arbrawf cymdeithasol a mordaith darganfyddiad ysbrydol.

Walden
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurHenry David Thoreau Edit this on Wikidata
CyhoeddwrTicknor and Fields Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi9 Awst 1854 Edit this on Wikidata
Genreffeithiol, dyddiadur Edit this on Wikidata
Prif bwncymddygiad bywyd, trosgynoliaeth, moeseg, natur Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn y llyfr, mae Thoreau yn croniclo ei fywyd ar ei ben ei hun mewn caban pren, a adeiladodd yng nghoedwig ar dir ei ffrind Ralph Waldo Emerson ger Concord, Massachusetts. Safodd y caban yn agos at y llyn Pwll Walden, ac enwir y llyfr ar ei ôl. Bu Thoreau yn byw yno o 4 Gorffennaf 1845 i 6 Medi 1847, ac yn ystod yr adeg honno ysgrifennodd ei lyfr cyntaf, A Week on the Concord and Merrimack Rivers.

Trwy ymgolli ei hun ym myd natur, roedd Thoreau yn gobeithio ennill dealltwriaeth fwy gwrthrychol o gymdeithas trwy fewnwthiad personol. Byw syml a hunangynhaliaeth oedd ei nodau eraill. Ysbrydolwyd y prosiect gan syniadau athroniaeth drosgynnol, yr oedd yn esboniwr blaenllaw ohoni.

Heddiw, er gwaethaf nifer o beirniadaethau hallt gan feddylwyr eraill, mae Walden yn parhau i fod yn ddylanwadol ac yn un o weithiau llenyddiaeth enwocaf America.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.