Arweinydd presennol y Blaid Sosialaidd Flaengar (PSF/y BSF) yn Libanus ac arweinydd amlycaf y gymuned Druz (Druze), gymuned grefyddol sy'n tarddu o Islam Shia ac sy'n cynrychioli 10% o boblogaeth Libanus, yw Walid Jumblatt (Arabeg: وليد جنبلاط‎‎) (ganed 7 Awst 1949). Mae'n un o'r gwleidyddion gwrth-Syriaidd amlycaf yn Libanus ac mae mewn cynghrair gyda Cynghrair 14 Mawrth, clymblaid sy'n cynnwys y Courant du Futur (Mudiad y Dyfodol), y Forces libanaises (Lebanese Forces) a Cymanfa Qornet Chehwan. Mae'n Aelod o Senedd Libanus.

Walid Jumblatt
Ganwyd7 Awst 1949 Edit this on Wikidata
Beirut Edit this on Wikidata
DinasyddiaethLibanus Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol America yn Beirut
  • International College, Beirut Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddgweinidog dros drafnidiaeth Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd Flaengar Edit this on Wikidata
TadKamal Jumblatt Edit this on Wikidata
MamMay Arslan Edit this on Wikidata
PlantTaymur Jumblatt Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Cyfeillgarwch Edit this on Wikidata

Mae Jumblatt yn bennaeth y tylwyth Jumblatt, teulu estynedig o dras Cyrdaidd sy'n hannu o Aleppo. Mae'n fab i'r gwleidydd Kamal Jumblatt, cyn-arweinydd y BSF, plaid Walid Jumblatt, a guddlofruddwyd. Y tylwyth Jumblatt yw'r mwyaf pwerus o dylwythau'r Druziaid ac mae Walid Jumblatt wedi defnyddio ei safle yn y gymuned Druz fel sylfaen ei rym yn y BSF, sy'n blaid i'r chwith o'r canol. Mae'n cael ei ystyried yn dipyn o faferic gwleidyddol gyda buddianau y gymuned Druz yn flaenoriaeth. Hyd at 2000, pan guddlofruddwyd y gwleidydd Hafez al-Assad, bu'n gefnogol i Syria yn Libanus, ond ers hynny mae'n galw ar i Damascus ildio ei goruchafiaeth ar faterion y wlad. Mae'n gwrthwynebu dylanwad Hezbollah hefyd.

Gyda milisia Druz sylweddol yn gefn iddo, mae Jumblatt yn byw ym mhentref Mukhtara ar lethrau Mynydd Libanus, prif ardal y Druz yn Libanus.

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Libanus. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.