Plaid Sosialaidd Flaengar

Plaid wleidyddol yn Libanus yw'r Blaid Sosialaidd Flaengar (PSF/y BSF) (Arabeg: الحزب التقدمي الاشتراكي‎, al-hizb al-taqadummi al-ishtiraki; Ffrangeg: Parti sosialiste progressiste). Ei harweinydd presennol yw Walid Jumblatt. Mae'n blaid i'r chwith o'r canol sy'n arddel seciwlariaeth; yn swyddogol mae'n anenwadol ond yn ymarferol mae'r rhan fwyaf o'i haelodau a'i chefnogwyr yn proffesu'r ffydd Druz, enwad sy'n tarddu o Islam Shia. Ei phrif ganolfan grym yw ardaloedd Druz Mynydd Libanus.

Plaid Sosialaidd Flaengar
Enghraifft o'r canlynolplaid wleidyddol Edit this on Wikidata
Idiolegsosialaeth ddemocrataidd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1949 Edit this on Wikidata
SylfaenyddKamal Jumblatt Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolSocialist International, Progressive Alliance Edit this on Wikidata
PencadlysBeirut Edit this on Wikidata
GwladwriaethLibanus Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.psp.org.lb/ Edit this on Wikidata
Erthygl am y blaid Libanaidd yw hon. Gweler hefyd Plaid Sosialaidd Flaengar Iwcrain.

Sefydlwyd y blaid ar y 5ed o Ionawr 1949, a'i chofrestru ar 17 Mawrth yn yr un flwyddyn. Roedd y chwe unigolyn a'i sefydlodd yn dod o wahanol gefndiroedd. Yr amlycaf ohonynt oedd Kamal Jumblatt (tad Walid Jumblatt), a ddaeth yn arweinydd y blaid.

Dan arweinyddiaeth Kamal Jumblatt roedd y BSF yn un o'r elfennau clo ym Mudiad Cenedlaethol Libanus a gefnogai hunaniaeth Arabaidd Libanus ac a gydymdemlai â'r Palesteiniaid. Oherwydd y sefyllfa yn y wlad, cododd Kamal Jumblatt filisia neu fyddin paramilwrol nerthol a chwaraeodd ran allweddol yn Rhyfel Cartref Libanus, o 1975 hyd 1990. Rheolai y rhan fwyaf o Fynydd Libanus ac ardal y Chouf. Prif elynion y milisia oedd y milisia Phalangaidd Cristnogol Maronaidd, ac yn nes ymlaen milisia Lluoedd Libanus (a ddaeth i gynnwys y Phalangiaid). Roedd cuddlofrudiad Kamal Jumblatt yn 1977 yn golled fawr i'r blaid. Fe'i olynwyd gan ei fab Walid.

Fel barn ei arweinydd, mae safbwynt y BSF wedi newid sawl gwaith dros y blynyddoedd. Gellid dweud fod ei safbwynt yn un bragmataidd gyda buddiannau'r Druziaid ac annibyniaeth Libanus yn cael y flaenoriaeth. Bu'n gefnogol i Syria am gyfnod a gwrthwynebodd ddiarfogi Hezbollah, ond mewn canlyniad i dwf dylanwad Syria a'i hymyraeth dybiedig ym materion mewnol Libanus mae'r blaid yn rhan o glymblaid wrth-Syriaidd yn Senedd Libanus. Trodd yn llawer llai cefnogol i Hezbollah hefyd ac arweiniodd yr anghydfod at ymladd yn 2008 pan yrrwyd y BSF allan o ddinas Beirut a'r cyffiniau gan Hezbollah. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae'r BSF yn rhan o "lywodraeth undod cenedlaethol" gyda Hezbollah ac eraill.

Dolenni allanol

golygu