Waun Mawn
Cylch cerrig Neolithig ym mryniau'r Preseli, ger Cilgwyn,[1] yw Waun Mawn. Mae Waun Mawn wedi cael ei gynnig gan archeolegwyr fel rhagflaenydd Côr y Cewri.[2] Fe'i hadeiladwyd tua 3000 CC. Mae diamedr y cylch yn 110m, yr un diamedr â'r ffos o amgylch Côr y Cewri.
Math | maen hir |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.971305°N 4.79294°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | PE124 |
Arweiniwyd y cloddio yn Waun Mawn gan yr Athro Mike Parker Pearson o Goleg Prifysgol Llundain.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Ffoto geograph". Geograph. Cyrchwyd 13 Chwefror 2021.
- ↑ Dalya Alberge (12 Chwefror 2021). "Dramatic discovery links Stonehenge to its original site – in Wales". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Chwefror 2021.
- ↑ "A gafodd cylch cerrig ei symud o Benfro i Gôr y Cewri?". BBC Cymru Fyw. 12 Chwefror 2021. Cyrchwyd 22 Chwefror 2021.