Llangystennin Garth Brenn
Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Llangystennin Garth Brenni[1] (Saesneg: Welsh Bicknor).[2][3] Hyd at 1844 roedd y pentref o fewn Sir Fynwy, Cymru.[4] Tua dwy filltir i'r gogledd mae tref Rhosan ar Wy a phedair milltir i'r de-orllewin mae Mynwy. Saif y pentref "Welsh Bicknor" ger y ffin â Swydd Gaerloyw, gyferbyn â phentref English Bicknor.
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Henffordd (Awdurdod unedol) |
Poblogaeth | 17 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Henffordd (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.8551°N 2.5887°W |
Cod SYG | E04000901 |
Cod OS | SO595175 |
Dywedir i Harri V, brenin Lloegr, fyw pan oedd yn blentyn yn y Maendy lleol, sef Courtfield (hefyd Greyfield a Greenfield), yn dilyn marwolaeth cynamserol ei fam Mary de Bohun, dan ofal yr Arglwyddes Margaret Montacute. Ceir cofeb i Margaret Montacute yn yr eglwys leol.
Perthyn i deulu'r Fychaniaid oedd y tiroedd hyn ar un adeg, a maenordy Courtfield hefyd, a cheir pentref i'r de (dros yr afon) o'r enw English Bicknor ac sydd yn Swydd Gaerloyw. Yn 1651 dygwyd holl diroedd Richard Vaughan (a oedd yn Babydd) gan Goron Lloegr a'u rhoi i Phillip Nicholas o Lan-soe, ym Mynwy.
Parhaodd disgynyddion Richard Vaughan i wrthwynebu'r drefn Seisnig ac yn 1715 gwrthododd John Vaughan dyngu llw o ffyddlondeb i Siôr I, brenin Prydain Fawr.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Eglwys Santes Marged
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Welsh placenames in Herefordshire; adalwyd 02/04/2013
- ↑ British Place Names; adalwyd 16 Gorffennaf 2018
- ↑ City Population; adalwyd 22 Hydref 2019
- ↑ Welsh placenames in Herefordshire