Propel (plaid wleidyddol)

Mae Propel yn blaid wleidyddol yng Nghymru sy'n cefnogi annibyniaeth i Gymru o'r Deyrnas Unedig. Cofrestrwyd y blaid ar 15 Ionawr 2020 dan yr enw Welsh National Party. Ei arweinydd yw Neil McEvoy, aelod o Senedd Cymru gynt o Plaid Cymru.[3] Mae gwleidyddiaeth y blaid yn sofraniaethol,[4] mae McEvoy yn ei disgrifio fel "sofraniaeth unigol, mae pobl yng Nghymru yn cael eu dominyddu llawer gormod gan y wladwriaeth o ran tai, gwasanaethau plant, mae pobl yn cael eu bwlio gan y wladwriaeth mewn gwirionedd ac mae'n rhaid i hynny newid. Rydyn ni eisiau sofraniaeth gymunedol gyda refferenda fel nad yw pethau fel cynllun datblygu Caerdydd yn mynd ymlaen os yw cymunedau lleol yn dweud na. Ac wrth gwrs, sofraniaeth genedlaethol. Mae angen i Gymru sefyll ar ei thraed ei hun ".[5]

Propel
ArweinyddNeil McEvoy
Slogan'Nid Gwleidyddiaeth fel Arfer'
Sefydlwyd15 Ionawr 2020; 4 o flynyddoedd yn ôl (2020-01-15)
Holltwyd oddi wrthPlaid Cymru
Pencadlys321 Cowbridge Road East
Canton
Caerdydd
CF5 1JD
Rhestr o idiolegau
Lliw     Gwyrdd,      gwyn, a      coch
ASau
0 / 40
Senedd Cymru
0 / 60
Llywodraeth leol[1][2]
8 / 1,253
Gwefan
propel.cymru

Ffurfiodd Propel (gynt Welsh Nation Party Welsh National Party) ei grŵp cyngor cyntaf ym mis Chwefror 2020, pan gyhoeddodd pedwar Cynghorydd Annibynnol yng Nghaerdydd y byddent yn ymuno â'r blaid.[6] Mae'r Blaid yn bwriadu rhoi ymgeiswyr ymlaen ar bob lefel o wleidyddiaeth Cymru - etholiadau cyngor lleol, y Senedd a San Steffan.[5]

Nid oedd gan y blaid hawl i ddefnyddio'r enw Cymraeg 'Plaid Genedlaethol Cymru', ar ôl i'r Comisiwn Etholiadol dweud ei fod yn rhy agos i enw Plaid Cymru. Dyweodd Neil McEvoy ar y pryd bydden dal yn defnyddio'r enw yn Gymraeg "beth bynnag sydd ar y papur pleidleisio".[7]

Ym mis Mai 2020 dywedodd Plaid Cymru ei fod yn ystyried mynd a'r Comisiwn Etholiadol i'r llysoedd dros enw Saesneg Welsh National Party. Dywedodd Plaid Cymru ei fod yn "afresymol" i gadw'r enw Saesneg pan fod y Comisiwn Etholiadol wedi gwrthod fersiwn Cymraeg yr enw.[8] Ar 5 Mai, yn dilyn cwyn gan Blaid Cymru, dadgofrestrwyd yr enw gan y Comisiwn Etholiadol, a bydd yn rhaid gwneud ail gais i gofrestru'r enw.[9] Cyhoeddodd Neil McEvoy ym mis Tachwedd gynlluniau i ail-frandio'r blaid ac ailgofrestru gan newid enw i Blaid y Genedl Gymreig (Welsh Nation Party) cyn etholiadau 2021,[10] ni lwyddwyd i hyn ddigwydd gyda'r Comisiwn Etholiadol yn gwrthod. Wedyn ar 3 Mawrth 2021 fe wnaeth y Comisiwn Etholiadol cofrestru'r blaid o dan yr enw newydd, Propel.[11]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cynghorwyr Cyngor Dinas Caerdydd Yn ôl plaid". Cyrchwyd 2020-04-12.
  2. "Cynghorydd o Wynedd yn ymuno'r Blaid Genedlaethol Cymru". Cyrchwyd 2020-05-03.[dolen marw]
  3. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw un
  4. "Neil McEvoy am lansio plaid newydd yn y gwanwyn". Golwg360. 2020-02-11. Cyrchwyd 2020-04-12.
  5. 5.0 5.1 "Neil McEvoy yn wfftio at 'fethiannau' Plaid Cymru". Golwg360. 2020-02-13. Cyrchwyd 2020-04-12.
  6. "Neil McEvoy's Welsh National Party forms first council group". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2020-02-24. Cyrchwyd 2020-04-12.
  7. "Welsh National Party can't use Welsh language name, Electoral Commission rules". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2020-02-28. Cyrchwyd 2020-04-12.
  8. "Ffrae dros enwau dwy blaid yn mynd i'r gyfraith?". BBC Cymru Fyw. 2020-05-01. Cyrchwyd 2020-05-03.
  9. Neil McEvoy loses fight to call his new party the Welsh National Party , WalesOnline, 5 Mai 2020.
  10. "Neil McEvoy: 'Welsh Nation Party yw'r hoff enw'". Golwg360. 2020-11-25. Cyrchwyd 2020-12-08.
  11. "Plaid Neil McEvoy wedi'i chofrestru'n swyddogol". Golwg360. 2021-03-03. Cyrchwyd 2021-03-04.