Neil McEvoy

Gwleidydd o Gymro

Gwleidydd Cymreig yw Neil John McEvoy (ganwyd 4 Ebrill 1970). Roedd yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros Etholaeth ranbarthol Canol De Cymru rhwng 2016 a 2021. Fe'i etholwyd fel cynghorydd Llafur yn 1999 ond newidiodd i fod yn aelod o Blaid Cymru yn 2003. Roedd yn aelod annibynnol o'r Cynulliad rhwng 2018 a 2020 cyn sefydlu ei blaid newydd Welsh National Party gynt, nawr Propel.[2]

Neil McEvoy
McEvoy yn 2016
Arweinydd Propel
Deiliad
Cychwyn y swydd
15 Ionawr 2020
Rhagflaenwyd ganSefydlwyd y blaid
Aelod o Senedd Cymru
dros Canol De Cymru
Yn ei swydd
5 Mai 2016 – 29 Ebrill 2021
Rhagflaenwyd ganLeanne Wood
Cynghorydd
dros Y Tyllgoed
Deiliad
Cychwyn y swydd
1 Mai 2008
Rhagflaenwyd ganMichael Costas-Michael
Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd
Yn ei swydd
16 Mai 2008 – 3 Mai 2012
Yn gwasanaethu gyda Judith Woodman[1]
Cynghorydd
dros Glan'rafon
Yn ei swydd
6 Mai 1999 – 10 Mehefin 2004
Rhagflaenwyd ganJ. Singh
Dilynwyd ganJ. Austin
Manylion personol
Ganwyd (1970-04-04) 4 Ebrill 1970 (54 oed)
Caerdydd
CenedligrwyddBaner Cymru Cymru
Plaid wleidyddolPropel (2020–presennol)
Cysylltiadau gwleidyddol
arall
Annibynnol (2018–2020)
Plaid Cymru (2003–2018)
Llafur (hyd at 2003)
PriodCeri McEvoy
Plant1 merch
GalwedigaethGwleidydd. Athro gynt.
Gwefanwww.neilmcevoy.cymru

Cefndir

golygu

Ganwyd a magwyd McEvoy yng Nghaerdydd. Ar ochr ei fam daeth ei ddad-cu o'r Yemen a mae teulu ei dad o Iwerddon a Lloegr. Cafodd ei gymhwyso fel athro ieithoedd modern.[3]

Gyrfa wleidyddol

golygu

Mae'n gynghorydd yn cynrychioli y Tyllgoed ar Gyngor Dinas Caerdydd ac yn arwain Grŵp Plaid Cymru y cyngor. Roedd yn ddirprwy arweinydd y cyngor rhwng 2008 a 2012.[4]

Yn 2015, fe'i ddewiswyd yn ail ar rhestr ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru [5] Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood oedd ar y frig y rhestr ond enillodd hi sedd y Rhondda yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016. Felly etholwyd McEvoy fel ail ddewis Plaid Cymru ar y rhestr.[6].

Ar 16 Ionawr 2018 fe'i waharddwyd yn barhaol o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad, am yr hyn gafodd ei ddisgrifio gan arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood fel "ymddygiad oedd yn tanseilio undod a chyfanrwydd y blaid".[7] Cafodd ei wahardd o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad ym mis Ionawr 2018 ac yn ddiweddarach cafodd ei ddi-arddel o Blaid Cymru am 12 mis. Dywedodd yn Hydref 2019 na fyddai'n ceisio ail-ymuno â Phlaid Cymru.[8]

Yn Etholiad Senedd Cymru, 2021, safodd yn erbyn y Prif Weinidog Mark Drakeford yn etholaeth Gorllewin Caerdydd. Gwnaeth hyn fel arweinydd Propel, y blaid genedlaetholgar newydd a ffurfiodd, gan dargedu cefnogwyr ei blaid flaenorol, Plaid Cymru.[9] Daeth yn bedwerydd tu ôl Rhys ab Owen, ymgeisydd Plaid Cymru.[10]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Cardiff and Conwy coalition deals". BBC News (yn Saesneg). 16 Mai 2008.
  2.  Neil McEvoy. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 10 Mai 2016.
  3.  Proffil Steffan Lewis, Gwefan Plaid Cymru. Plaid Cymru.
  4.  Plaid Cymru Neil McEvoy councillor ordered to pay Labour rival Michael Michael £50k. Wales Online (20 Mawrth 2015). Adalwyd ar 10 Mai 2016.
  5.  Plaid Cymru yn cyhoeddi ymgeisyddion rhestr Canol De Cymru. Plaid Cymru (4 Gorffennaf 2015).
  6.  Rhanbarth y Cynulliad - Canol De Cymru. BBC Cymru Fyw.
  7. Gwaharddiad parhaol o grŵp Plaid Cymru i Neil McEvoy , BBC Cymru Fyw, 16 Ionawr 2018. Cyrchwyd ar 16 Ionawr 2017.
  8. Neil McEvoy yn dweud na fydd yn ail-ymuno â Phlaid Cymru , BBC Cymru Fyw, 7 Hydref 2019.
  9. (Saesneg) Plaid and Propel take aim at the First Minister in Cardiff West. nation.cymru (3 Mai 2021).
  10. BBC - Etholiadau 2021 - Gorllewin Caerdydd , BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd ar 8 Mai 2021.