Welsh National Party (Plaid Wleidyddol)

Mae'r Welsh National Party ( WNP ) ( Enw Cymraeg answyddogol: Plaid Genedlaethol Cymru) yn blaid wleidyddol yng Nghymru sy'n cefnogi annibyniaeth i Gymru o'r Deyrnas Unedig. Cofrestrwyd y blaid ar 15 Ionawr 2020. Ei arweinydd yw Neil McEvoy, aelod o Senedd Cymru gynt o Plaid Cymru. [1] Mae gwleidyddiaeth y blaid yn sofraniaethol, [4] mae McEvoy yn ei disgrifio fel "sofraniaeth unigol, mae pobl yng Nghymru yn cael eu dominyddu llawer gormod gan y wladwriaeth o ran tai, gwasanaethau plant, mae pobl yn cael eu bwlio gan y wladwriaeth mewn gwirionedd ac mae'n rhaid i hynny newid. Rydyn ni eisiau sofraniaeth gymunedol gyda refferenda fel nad yw pethau fel cynllun datblygu Caerdydd yn mynd ymlaen os yw cymunedau lleol yn dweud na. Ac wrth gwrs, sofraniaeth genedlaethol. Mae angen i Gymru sefyll ar ei thraed ei hun ". [5]

Welsh National Party
Arweinydd Neil McEvoy AM
Sefydlwyd 15 Ionawr 2020; 8 mis yn ôl (2020-01-15)
Pencadlys 321 Cowbridge Road East
Canton
Caerdydd
CF5 1JD
Rhestr o idiolegau
ASau
0 / 40
Senedd Cymru
1 / 60
[1]
Llywodraeth leol yng Nghymru[2] [3]
6 / 1,253
Gwefan
ybg.cymru

Ffurfiodd Welsh National Party (WNP) ei grŵp cyngor cyntaf ym mis Chwefror 2020, pan gyhoeddodd pedwar Cynghorydd Annibynnol yng Nghaerdydd y byddent yn ymuno â'r blaid. [6] Mae'r Blaid yn bwriadu rhoi ymgeiswyr ymlaen ar bob lefel o wleidyddiaeth Cymru - etholiadau cyngor lleol, y Senedd a San Steffan. [5]

Nid oedd gan y blaid hawl i ddefnyddio'r enw Gymraeg 'Plaid Genedlaethol Cymru', ar ôl i'r Comisiwn Etholiadol dweud ei fod yn rhy agos i enw Plaid Cymru. Mae Neil McEvoy dal yn defnyddio'r enw yn Gymraeg "beth bynnag sydd ar y papur pleidleisio". [7]

Ym mis Mai 2020 dywedodd Plaid Cymru ei fod yn ystyried mynd a'r Comisiwn Etholiadol i'r llysoedd dros enw Saesneg Welsh National Party. Dywedodd Plaid ei fod yn "afresymol" i gadw'r enw Saesneg pan fod y Comisiwn Etholiadol wedi gwrthod fersiwn Cymraeg yr enw.[8] Ar 5 Mai, yn dilyn cwyn gan Blaid Cymru, dadgofrestrwyd yr enw gan y Comisiwn Etholiadol, a bydd yn rhaid gwneud ail gais i gofrestru'r enw.[9]

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 "Proffil Aelod". Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
  2. "Cynghorwyr Cyngor Dinas Caerdydd Yn ôl plaid". Cyrchwyd 2020-04-12.
  3. "Cynghorydd o Wynedd yn ymuno'r Blaid Genedlaethol Cymru". Cyrchwyd 2020-05-03.
  4. "Neil McEvoy am lansio plaid newydd yn y gwanwyn". Golwg360. 2020-02-11. Cyrchwyd 2020-04-12.
  5. 5.0 5.1 "Neil McEvoy yn wfftio at 'fethiannau' Plaid Cymru". Golwg360. 2020-02-13. Cyrchwyd 2020-04-12.
  6. "Neil McEvoy's Welsh National Party forms first council group". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2020-02-24. Cyrchwyd 2020-04-12.
  7. "Welsh National Party can't use Welsh language name, Electoral Commission rules". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2020-02-28. Cyrchwyd 2020-04-12.
  8. "Ffrae dros enwau dwy blaid yn mynd i'r gyfraith?". BBC Cymru Fyw. 2020-05-01. Cyrchwyd 2020-05-03.
  9. Neil McEvoy loses fight to call his new party the Welsh National Party , WalesOnline, 5 Mai 2020.