Mae Wenglish fel arfer yn cyfeirio at y tafodieithoedd o Saesneg a siaredir yn ne Cymru. Mae dylanwad gramadeg a geirfa'r iaith Gymraeg yn drwm arni, ac mae'n cynnwys nifer o eiriau unigryw.

Mae John Edwards wedi ysgrifennu'n ddifyr iawn am Saesneg y Cymoedd. Mae rhai pobl, yn enwedig pobl y tu allan i Gymru, yn defnyddio Wenglish i gyfeirio at bob ffurf ar Saesneg a siaredir yng Nghymru.

Ynganiad a Nodweddion golygu

Dyma rai o nodweddion Wenglish sy'n ei gwneud yn wahanol i Saesneg 'safonol':

  • Gwahaniaethau mawr o ran traw sy'n rhoi'r effaith "canu".
  • Gwneud llafariaid yn hir, yn enwedig yn acenion Cymoedd y De e.e Vaaalleys.
  • Gwahaniaethu wrth ynganu rhwng y parau canlynol rude a rood, threw a through, chews a choose, chute a shoot.
  • Seinio year, here a ear yr un peth.
  • Ynganu -ng ar ddiwedd berfau yn -in e.e. Singin I was.
  • Colli 'h-' ddechreuol e.e. 'E's 'ell uv a good shaag, mind!
  • Defnydd mynych o eiriau llanw fel like.

Dylanwad y Gymraeg golygu

  • Tueddiad i rolio 'r'.
  • Geirfa, fel cwtsh, didoreth, as diflas as pechod!
  • Blaenu i ddangos pwyslais fel It's Brains you want, Jokin' I was, mun, Bad in bed under the doctor I was.
  • Cyfieithu ymadroddion o'r Gymraeg e.e. There's lovely it is (< Dyna hyfryd yw e) a keep the dishes (< cadw'r llestri), lose the bus (< colli'r bws), rise a ticket (< codi tocyn).
  • Defnydd o is it? ar ddiwedd brawddeg e.e. Goin' shoppin', is it? (< Mynd i siopa, ife?)

Dylanwad y Saesneg golygu

  • Mae'n debyg bod yr ymadrodd where to? e.e. Where's 'e to?, neu Where to's tha' then? yn dod o Saesneg Gwlad yr Haf.
  • Daw daps (esgidiau dal adar!) o'r tu draw i afon Hafren hefyd. Fodd bynnag, gallai'r term "daps" gyfeirio at arwydd yn ffatri "Dunlop Athletic Plimsoles". Cyfeiriwyd at y ffatri fel "Y Ffatri Daps".

Llenyddiaeth golygu

Rhai enghreifftiau o awduron sydd wedi ysgrifennu Wenglish mewn nofelau ydy Rachel Trezise, Catrin Dafydd, Gwyn Thomas, Dylan Thomas, Trezza Azzopardi a Dannie Abse.

Dolenni allanol golygu