Santes o ddiwedd y 5g oedd Gwen (hefyd Wenna). Roedd yn ferch i Anhun ferch Gwrthyfer a Cynyr o Gaer Gawch, Penfro. Roedd hi'n chwaer i Ina, Non a Nectan ac yn hanner chwaer i Banadlwen.

Wenna
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Mae'r erthygl hon yn sôn am Santes Wenna; neu Gwen ferch Cynyr a elwir Gwen o Gernyw. Ni dylid ei chymysu hi gyda Gwen o Dalgarth neu Gwen Teirbron.

Ganwyd a magwyd hi yng Nghymru ond symudodd i Gernyw lle priododd Selyf o Gernyw. Roedd yn fam i Nwyalen a Chybi. Mae'n debyg fod ei brawd Nectan a'i chwaer Non wedi ei dilyn i Gernyw. Bu hi farw yn 544.[1]

Ceir sawl eglwys wedi'u henwi ar ei hôl gan gynnwys Eglwys Sen Gwenna (Saesneg: St Wenn) ger Bodmin yng ngogledd Cernyw ac Eglwys Lanndohow (Saesneg: St Kew) a Cheristowe, Stoke-by-Hartland yn Nyfnaint.[2]

Llyfryddiaeth

golygu
  • D. Simon Evans (gol.), Buched Dewi (Caerdydd, 1959).

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Spencer, R. 1991 Saints of Wales and the West Country, Llannerch
  2. eglwysyngnghymru.org.uk;[dolen farw] adalwyd 15 Mehefin 2016.