Wes Craven
Cyfarwyddwr, cynhyrchydd, a sgriptiwr ffilm o'r Unol Daleithiauoedd Wesley Earl Craven (2 Awst 1939 – 30 Awst 2015) sy'n enwocaf am ei ffilmiau arswyd.[1]
Wes Craven | |
---|---|
Ganwyd | Wesley Earl Craven 2 Awst 1939 Cleveland |
Bu farw | 30 Awst 2015 o canser ar yr ymennydd Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, actor, gweithredydd camera, cyfarwyddwr teledu, cynhyrchydd teledu, golygydd ffilm, actor ffilm, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, llenor |
Adnabyddus am | A Nightmare on Elm Street, Scream, The People Under The Stairs, The Hills Have Eyes, Red Eye, Music of The Heart, Swamp Thing, The Serpent and the Rainbow, Vampire in Brooklyn |
Arddull | ffilm arswyd, ffilm gyffro, Ffilm gyffro seicolegol, psychological horror film, ffilm arswyd goruwchnaturiol, ffilm gomedi arswyd, ffilm ddrama, ffilm wyddonias, ffilm arswyd wyddonias, ffilm am ddirgelwch, ffilm ffantasi, ffilm drywanu, ffilm gothig, ffilm arswyd am gyrff, ffilm gomedi, ffilm arswyd gothig, ffilm llawn cyffro |
Taldra | 188 centimetr |
Priod | Mimi Craven, Bonnie Broecker, Iya Labunka |
Plant | Jonathan Craven |
Gwefan | https://www.wescraven.com/ |
llofnod | |
Ganwyd yn Cleveland, Ohio, i deulu o Fedyddwyr caeth. Astudiodd Saesneg a seicoleg yng Ngholeg Wheaton yn Illinois ac enillodd ei radd meistr mewn athroniaeth ac ysgrifennu o Brifysgol Johns Hopkins. Gweithiodd fel athro cyn iddo cael gwaith yn y diwydiant ffilm fel golygydd sain. Cyfarwyddodd sawl ffilm bornograffig dan ffugenw ar ddechrau ei yrfa. Ei ffilm arswyd gyntaf, dan enw ei hunan, oedd The Last House on the Left (1972), ffilm sy'n ddrwg-enwog o hyd am ei olygfeydd o artaith a thrais a chyngor ei phoster: "To avoid fainting, keep repeating 'It's only a movie...'". Ei ail ffilm oedd The Hills Have Eyes (1977), ac yn ddiweddarach fe greodd sawl ffilm deledu a hefyd Deadly Blessing (1981) a The Hills Have Eyes II (1984).
Llwyddiant mwyaf Craven oedd A Nightmare on Elm Street (1984), ffilm "slaeswr" a fanteisiodd ar ofnau plant o hunllefau i gyflwyno elfen ffantasi i'r genre. Daeth anghenfil y ffilm, Freddy Krueger, yn un o ddynion drwg enwocaf y sinema arswyd. Yn sgil llwyddiant y ffilm, cafwyd cyfres deledu, chwe ffilm ddilynol, ffilm groesi gyda'r cymeriad Jason o'r gyfres Friday the 13th sef Freddy Vs Jason (2003), ac ailwneuthuriad o'r ffilm wreiddiol yn 2010.
Ymhlith ei weithiau eraill mae'r ffilm deledu Chiller (1985), y ffilm sombi The Serpent and the Rainbow (1988), sawl pennod o'r gyfres The Twilight Zone, a The People Under the Stairs (1991). Cyfarwyddodd y ffilm arswyd gomedi Vampire in Brooklyn (1995) sy'n serennu Eddie Murphy. Cafodd Craven lwyddiant mawr eto gyda Scream (1996), ac efe a gyfarwyddodd hefyd y tri dilyniant (1997, 2000, a 2011). Crwydrodd i wahanol fathau o ffilm gyda'r ddrama sentimental Music of the Heart (1999) a'r stori ias a chyffro Red Eye (2005).
Bu farw yn 76 oed o ganser yr ymennydd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Wes Craven obituary, The Guardian (31 Awst 2015). Adalwyd ar 21 Gorffennaf 2017.