Hunllef
Breuddwyd annymunol yw hunllef. Mae hunllefau yn achosi ymateb emosiynol cryf gan y sawl sy'n cwsgu, yn enwedig ofn a dychryn neu arswyd. Yn eu cwsg, gall pobl brofi sefyllfa o berygl eithriadol, teimlo poen, neu fod mewn sefyllfa annymunol fel syrthio, boddi, trais, colli rhywun agos neu rywbeth gwerthfawr, cwrdd angenfilod neu ellyllon, cael ei ladd, bod yn gaeth a methu dianc a bod mewn perygl am eu bywyd. Yr esboniad traddodiadol am freuddwydion fel hyn oedd bod y sawl sy'n cysgu yng ngafael rhyw ellyll neu'i gilydd. Heddiw mae meddygon a seicolegwyr yn dangos bod gan hunllefau achosion corfforol fel dioddef twymyn uchel neu gysgu gyda'r wyneb i lawr ar y clustog, neu rai seicolegol fel trawma seicolegol neu straen sy'n dod i'r amlwg ym meddwl y cysgwr, ond weithiau does dim rheswm amlwg chwaith. Gall profiad annymunol neu eiliad o ofn a brofwyd yn effro ddod yn ôl i aflonyddu'r meddwl pan fo rhywun yn breuddwydio; felly mae cyn-filwyr weithiau'n cael hunllefau am ymladd a gall rywun a fu mewn damwain yn ailfyw hynny fel hunllef. Gall person ddeffro o hunllef yn teimlo'n anghysurus a methu mynd yn ôl i gysgu eto. Does dim ateb syml i atal hunllefau, ond gall bwyta yn syth cyn mynd i'r gwely, sy'n peri i fetaboleg y corff a gweithgaredd yr ymennydd gynyddu, fod yn achos potensial hunllefau.
Yn draddodiadol, credai pobl mewn sawl diwylliant fod 'Yr Hunllef' yn rhyw fath o fod goruwchnaturiol neu yn cael ei chreu gan ryw fod o'r fath. Enghraifft o hyn yw'r creadur goruwchnaturiol Germanaidd, y mare (tarddiad y gair Saesneg nightmare), sy'n eistedd ar bobl yn eu cwsg i beri iddynt gael hunllefau.
Does dim creadur tebyg yn nhraddodiadau Cymru, er bod nifer o draddodiadau ac arferion llên gwerin sy'n ymwneud â breuddwydion. Hun ('cwsg') yw'r elfen gyntaf yn y gair hunllef. Ymddengys mai lle yn yr hen (ail) ystyr 'prudd, trwm, trist' yw'r ail elfen; magwyd y llythyren -f derfynol am fod geirdarddeg boblogaidd yn ei esbonio fel 'llef' (h.y. 'hun-llef') am fod rhywun sy'n cael hunllef yn gweiddi allan yn ei gwsg.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, Cyfrol I, tud. 1924.
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- Oriel Tate, Llundain: "Gothic Nightmares" Archifwyd 2010-12-21 yn y Peiriant Wayback