Who Wants to Be a Millionaire?
Rhaglen gwis teledu yw Who Wants to Be a Millionaire? a ddarlledir ers 1998. Mae llwyddiant y fersiwn Saesneg wedi arwain at fasnachfraint o raglenni gydag enwau tebyg sydd wedi cael eu darlledu mewn dros 160 o wledydd.
Who Wants to Be a Millionaire? | |
---|---|
Genre | Sioe cwis |
Crëwyd gan |
|
Cyflwynwyd gan |
|
Gwlad | Deyrnas Unedig |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Nifer o gyfresi | 35 |
Nifer o benodau | 630 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd/wyr | Fiona Clark (2018–presennol) |
Lleoliad(au) |
|
Hyd y rhaglen | 30–80 munud |
Cwmni cynhyrchu |
|
Dosbarthwr | Celador International/2waytraffic International (1998–2009) Sony Pictures Television International Distribution (2009–2014, 2018–presennol) |
Rhyddhau | |
Rhwydwaith gwreiddiol | ITV |
Fformat y llun | |
Darlledwyd yn wreiddiol | Cyfres gwreiddiol: 4 Medi 1998 – 11 Chwefror 2014 Cyfres adfywiedig: 5 Mai 2018 – presennol |
Dolenni allanol | |
Gwefan |
Mae cystadleuwyr yn ateb cyfres o gwestiynau aml-ddewis ar gyfer gwobrau arian gyda’r swm yn cynyddu gyda phob ateb cywir hyd at, yn achos y fersiwn Prydeinig, £1,000,000.
Creuwyd y rhaglen gan David Briggs, a’i chynhyrchwyd yn wreiddiol gan gwmni Celador. Darlledwyd ar ITV. Y cyflwynydd gwreiddiol oedd Chris Tarrant, gyda’r fformat hwn yn rhedeg am 30 cyfres rhwng 1998 a 2014. Pedair blynedd yn ddiweddarach, ail-gyflwynwyd y rhaglen, gyda Jeremy Clarkson yn cyflwyno a'r cwmni Stellify yn cynhyrchu, am 5 cyfres arall.
Fformat
golyguMae grŵp o gystadleuwyr yn chwarae rownd rhagarweiniol o’r enw ‘Bys cyflymaf yn gyntaf’ (Fastest finger first). Mae’r cystadleuwyr angen rhoi pedair ateb yn y drefn gywir yn ôl gofynion y cwestiwn , e.e. o’r cynharaf i’r hwyraf. Mae’r enillydd yn mynd ymlaen i’r ‘sedd boeth’ (hot seat), h.y yn derbyn cyfres o gwestiynau aml-ddewis, gyda’r wobr yn cynyddu pob tro. Mae pob cwestiwn gyda phedwar ateb posibl, A, B, C neu D. Mae cwestiynau’n mynd yn anoddach fel mae’r gwobrau’n cynyddu. Yn wreiddiol roedd gan bob cystadleuydd ddwy ‘rwyd ddiolgelwch’ (safety net), un a osodwyd ar £1,000 a’r llall ar £32,000. Yn y fformat newydd, gall y cystadleuydd osod yr ail rwyd ddiolgelwch ble bynnag y mynno.
Rhaffau diogelwch
golyguYn ystod ei gyfnod yn y sedd boeth, gall cystadleuydd wneud defnydd o nifer o raffau diogelwch (lifelines). Yn y fformat gwreiddiol roedd y rhain yn cynnwys:
- 50:50 (1998 – rŵan) -dilëir dau ateb posibl ar hap gan gyfrifiadur gan adael yr ateb cywir ac un anghywir
- ffonio ffrind (1998 – rŵan) – mae’r cystadleuydd yn ffonio ffrind ac yn cael 30 eiliad i ddarllen y cwestiwn a’r pedwar ateb posibl. Ers 2011, mae aelod o’r tîm cynhyrchu yn cadw cwmni’r ffrind i sicrhau nad yw twyllo’n digwydd.
- gofyn i’r gynulleidfa (1998 - rŵan) – mae aelodau o’r gynulleidfa’n defnyddio bysellbad i bleidleisio ar beth yw’r ateb cywir yn ôl eu barn. Dangosir y canrannau i’r cystadleuydd.
- switsio (2002-2003, 2010-2014) – mae’r cyfrifiadur yn cyfnewid cwestiwn ag un arall o’r un gwerth ariannol
Yn y fformat newydd, roedd rhai newidiadau. Roedd 50:50, ffonio ffrind a gofyn i'r gynulleidfa wedi'u cadw ond ychwanegwyd
- gofyn i’r cyflwynydd (2018 - rŵan) – mae’r cyflwynydd yn cynnig cyngor neu ateb i’r cystadleuydd
Yng nghyfres 35 yn ystod yr argyfwng Covid, hepgorwyd "gofyn i’r gynuddeidfa" gan osod "ffonio ffrind" ychwanegol.
Enillwyr £1,000,000
golyguHyd yn hyn mae chwe enillydd wedi derbyn y wobr uchaf o £1,000,000. Nhw yw:
- Judith Keppel, cyn-ddylunydd gerddi, ar 20 Tachwedd 2000. Yn dilyn hyn, ymunodd â’r rhaglen Eggheads fel un o’u harbenigwyr.
- David Edwards, cyn-athro ffiseg, ar 21 Ebrill 2001. Roedd yn cyn-enilydd y cwis teledu Mastermind.
- Robert Brydges, banciwr, ar 29 Medi 2001.
- Pat Gibson, sydd wedi ennill Pencampwriaeth Cwis y Byd pedairgwaith, ar 24 Ebrill 2004.
- Ingram Wilcox, ar 23 Medi 2006. Daeth yn ail ar y cwis radio Brain of Britain ddwywaith, yn 1978 a 1995.
- Donald Fear, athro o Telford, ar 11 Medi 2020.
Sgandal twyllo
golyguYm Medi 2001, atebodd Uwch-gapten Charles Ingram gwestiynau £500,000 a £1,000,000 yn gywir ar ôl ffafrio atebion anghywir i ddechrau. Wrth adolygu’r rhaglen, sylwodd y tîm cynhyrchu fod cystadleuydd arall, Tecwen Whittock, yn pesychu pan fo Ingram yn ffafrio atebion anghywir. Aeth yr achos i’r llys a dyfarnwyd Ingram, ei wraig, Diana, a Whittock yn euog o dwyll, gyda dedfrydau o gyfnodau o garchar wedi’u gohirio.