Athro hanes a gwleidyddiaeth o Loegr oedd Donald Fear (ganwyd Donald James Fear yn 1962) sy’n byw yn Telford, fwyaf adnabyddus am ddod i fod y chweched i ennill £1,000,000 ar Who Wants to Be a Millionaire? yn 2020.

Donald Fear
Ganwyd1962 Edit this on Wikidata
Bryste Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathro Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar a gyrfa dysgu

golygu

Ef yw’r trydydd o bedwar o blant. Ganwyd ef ym Mryste ond symudodd i Fanceinion fel plentyn ifanc. Symudodd ei deulu pan oedd yn ei arddegau i Gernyw ble roedd Charles Causley yn un o’i athrawon.[1] Astudiodd hanes a gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, ble enillodd y Wobr Athro Glanmor Williams ar gyfer Hanes a’r Wobr Goffa John Rees. Wedyn dysgodd mewn nifer o ysgolion yn Telford ac Amwythig [2] cyn dod i fod yn Bennaeth Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn Ysgol Ramadeg Haberdashers’ Adams, Newport, Swydd Amwythig.[3] Mae’n briod gyda phedwar o blant.

Who Wants to Be a Millionaire?

golygu

Ym Medi 2020 aeth ar y rhaglen teledu Who Wants to Be a Millionaire? ble ddaeth i fod y chweched person i ennill £1,000,000 am 14 o flynyddoedd.[4][5][6] Roedd ei ymddangosiad yn hynod oherwydd defnyddiodd ond un ‘rhaff achub’ i gyrraedd y miliwn tra roedd pawb arall a gyrhaeddodd y miliwn wedi defnyddio pob un. Ef yw brawd Davyth Fear a enillodd £500,000 y flwyddyn flaenorol.[7][8] Mae’r camp teuluol hwn heb ei ail yn hanes y rhaglen.[9] Yn y cyhoeddusrwydd cyn darlledu’r rhaglen, dywedodd Jeremy Clarkson ei fod yn credu mai Fear oedd yr ‘ymgeisydd gorau yn hanes y rhaglen’.[10]

Cynlluniodd Fear i roi £700,000 o'i wobr i'w deulu, a defnyddio'r £300,000 yn weddil ar "ymddeoliad cyfforddus".[7][11] Yn syth ar ôl ennill y jacpot, aeth ef a'i wraig ar wyliau carafan i Whitley Bay i ddathlu.[8]

Gofynnodd cwestiwn £1,000,000 Fear pa un o bedwar morleidr fu farw oddi ar arfordir Gogledd Carolina yn 1718. Atebodd yn gywir "Blackbeard" wrth gofio cwrs hanes a gynlluniodd 8 mlynedd cyn y sioe.[11][12] Cafodd Fear ei longyfarch gan ddisgyblion Haberdashers' Adams.[7]

Bywyd personol

golygu

Mae’n gystadleuydd cwis a chwaraewr tenis bwrdd brwdfrydig.[13][14] Priododd Debra Churchill, nyrs gynecoleg,[8] yn 1987 ac mae ganddynt bedwar o blant - Cat, Ali, Izzy a Chris.[15]

Yn 2022 ymddangosodd mewn tîm efo'i frawd ar y rhaglen deledu 'Eggheads'. [16]

 
Davyth Fear a Donald Fear

Cyfeiriadau

golygu
  1. BBC Breakfast. 14 September 2020. Event occurs at 8.20.
  2. "Wakeman School memories sought as closure looms". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-13. Cyrchwyd 2020-09-11.
  3. "History Department". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-14. Cyrchwyd 2020-09-11.
  4. "All time winners list".
  5. "Teacher beats brother to win Millionaire jackpot". BBC News (yn Saesneg). 2020-09-11. Cyrchwyd 2020-09-12.
  6. "Who Wants To Be A Millionaire? crowns million-pound winner - with no 'ask the audience'". inews.co.uk (yn Saesneg). 2020-08-20. Cyrchwyd 2020-09-12.
  7. 7.0 7.1 7.2 "Who Wants to be a Millionaire? crowns first winner in 14 years". The Independent (yn Saesneg). 2020-09-12. Cyrchwyd 2020-09-12.
  8. 8.0 8.1 8.2 "First Who Wants To Be A Millionaire? winner in 16 years celebrated victory with caravan holiday". inews.co.uk (yn Saesneg). 2020-09-14. Cyrchwyd 2020-09-21.
  9. "Who Wants To Be A Millionaire: Teacher beats brother to win jackpot - BBC". www.bbc.co.uk.
  10. "Who Wants To Be A Millionaire? gets first UK jackpot winner for 14 years".
  11. 11.0 11.1 Kelly, Helen (2020-09-11). "Who Wants to be a Millionaire winner pinpoints second he knew he'd win 'A simple question'". Express.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-12.
  12. Media, P. A. (2020-09-11). "Who Wants To Be a Millionaire? crowns first winner in 14 years". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2020-09-12.
  13. "Table Tennis News - Shropshire" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-09-20. Cyrchwyd 2020-09-11.
  14. "Averages".
  15. Lane, Ellis (12 September 2020). "What Who Wants to Be a Millionaire winner will spend his money on". BristolLive. Cyrchwyd 14 September 2020.
  16. https://www.shropshirestar.com/entertainment/telford-entertainment/2022/02/19/telford-quizzersled-by-who-wants-to-be-a-millionaire-brothers-take-on-the-eggheads/

Dolenni allanol

golygu