Yn y mis cyntaf rwy yn bennaf wedi bod yn ymgyfarwyddo fy hun â'r Coleg (yn y brif swyddfa yng Nghaerfyrddin ac yng Nghaerdydd, lle mae fy swyddfa i). Yna rwy wedi bod yn chwilio am gynnwys cyfeiriadol a'i grëwyd gyda chymorth y Coleg y gellid ei ryddhau dan drwydded Comin CreuAttribution-ShareAlike. (Gobeithir bydd enw Cymraeg ar gyfer hyn a chyfeithiad o destun y drwydded erbyn diwedd y preswyliaeth!) Gweler yr Esboniadur Daearyddiaeth ar Y Porth, llwyfan e-ddysgu'r Coleg, am enghraifft o'r fath o gynnwys y gobeithir ei ryddhau; mae deunyddiau mewn sawl maes arall hefyd yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i Fwrdd Academaidd y Coleg ar 7 Mai, a rhywbryd ar ôl hynny gobeithir uwchlwytho'r deunyddiau.