Wicipedia:Wici Cymru/Cofnodion 08 Ebrill 2013
- Presennol
Cyfarfod yn y Parci. Elfed Williams (Cadair), Huw Williams (Trysorydd), Rhys Wynne (Cyhoeddusrwydd), Les Barker a Robin Owain. Ymddiheuriadau: Llinos, Dafydd, Gwyn a Martin.
- Llwybrau Byw!
Cadarnhad ar ebost wedi cyrraedd, yr arwyddo ar y 18fed o'r mis hwn. Hyn yn caniatau cyflogi Wicipedwyr i hyfforddi grwpiau lleol mewn sgiliau Wicipedaidd ar hyd Llwybr yr Arfordir. Cais wedi'i wneud i WMUK hefyd. Dywedwyd fod y targedi wedi'u pennu a bod y gwaith o adnabod grwpiau wedi ei gychwyn gan Robin (gweler "Partneriaid"). Trafodwyd hyfforddi golygyddion i hyfforddi eraill, gyda chymhwyster safonol yn cael ei roi. Robin a Rhys i ymchwilio ymhellach. Trafodwyd y drefn ariannol: taliadau wedi'r gwaith yn creu problem llif-arian; trafodwyd hefyd y system wiro-ariannol a fydd yn ei le.
- Gwefan
Trafodwyd fod y wefan "Datblygu" Wicipedia'n anhygyrch - yn anodd ei ddarganfod a fforio o'i gwmpas. Cytunwyd i Rhys greu gwefan annibynol fel "ffrynt" gyda blog arno. Bydd angen URL a chytunwyd y byddai "www.wicicymru" yn pwyntio i'r wefan newydd hon.
- Logo
Mae gwybodaeth am y gystadleuaeth creu logo eisioes ar y we: Rhys.
- Gwŷl Tegeingl a'r sîn canu gwerin
Soniwyd fod toreth o luniau gwych wedi'u huwchlwytho gan Les - y rhan fwyaf o Wŷl Tegeingl ac y byddai cael un neu ddau lleol i greu erthyglau cyfatebol yn ychwanegiad gwerthfawr iawn i'r Wici-cy. Les am holi.
- Wiki-GLAM
Robin yn siarad yn y Llyfrgell Brydeinig mewn wythnos yng nghynhadledd Glam-Wiki; wedi cyfarfod Cyngor Ceredigion a Chyngor Sir Gaerfyrddin yn barod.
- Golygathon Caerdydd
Cafwyd ceisiadau am Olygathon arall yng Nghaerdydd a chytunwyd i drefnu diwrnod tebyg i'r llynedd, yn y ddwy iaith. Rhys a Robin.
- Graffiau a data mathemategol
Trafodwyd pa mor hawdd ydy defnyddio ieithoedd / cod mathemategol ar Wicipedia a'i bod yn yn eitha hawdd creu graffiau. Rhoi hyn yng nghefn y meddwl ar gyfer y dyfodol.
- Y Coleg Cymraeg / Coleg Glyndŵr
Robin i greu cyswllt swyddogol. Dau gysylltiad answyddogol wedi'i wneud yn barod, ond angen ffurfioli hyn. Coleg GD wedi cyfarfod a Robin yn Wrecsam ac yn awyddus iawn i gydweithio gyda rhai agweddau e.e. gor-realaeth a chodau QRpedia.
- S4C
Gwnaed cais i ddatblygu cysylltiad rhwng Wicipedia Cymraeg a Gor-realaeth; disgwyl ateb. Trafodwyd hefyd mor wych fyddai medru cael stoc o hen raglenni Cymraeg yn gofnod tragwyddol ohonyn nhw.
- Hyfforddi'r Hyfforddwyr
Trafodwyd ymarferoldeb hyfforddi Wicipedwyr gydag achrediad derbyniol, fel ag a wneir gan WMUK. Rhys i holi.