Wicipedia:Wici Cymru/Cyfansoddiad

   Hafan Datblygu        Cynllun Datblygu        Digwyddiadau        Cyhoeddusrwydd          Wici GLAM        Wici Addysg        Wici Cymru        Man Trafod    

* Hafan * Cofnodion * Partneriaid


CYFANSODDIAD golygu

Enw 1. Enw’r Gymdeithas yw ‘Cymdeithas Wici Cymru’

yn Saesneg: Wici Cymru Society.

Byddwn hefyd yn defnyddio’r enw ‘Cymdeithas Llwybrau Byw’,

yn Saesneg: The Living Paths Society.


Nod ac Amcanion

2. Nod y Gymdeithas yw hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r defnydd o'r Gymraeg ar y we, gan gyflawni hynny drwy’r amcanion hyn
  • hybu, hyrwyddo a chefnogi’r Wicipedia Cymraeg a’r Wikipedia Saesneg yng Nghymru.
  • hyrwyddo'r cysyniad o ledaenu holl wybodaeth y byd i bawb, am ddim drwy hyrwyddo'r defnydd o 'gynnwys agored' neu ‘gynnwys * rhyddhau gwybodaeth addysgol (testun, delweddau, fideo ayb) ar drwydded CC-BY-SA neu ei debyg
  • ffurfio perthynas ag unigolion, sefydliadau a chymdeithasau cyffelyb yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill.
  • addysgu a meithrin golygyddion newydd a chynnig hyfforddiant sut i hyfforddi eraill (cynllun 'Hyfforddi’r Hyfforddwyr’ a drefnir gan Wicigyfryngau)
  • cofrestru'r Gymdeithas yn Elusen gyda’r Comisiwn Elusennau. Sylwer: mae'r gymdeithas yn gymdeithas ddi-elw (not-for-profit society).


Pwyllgor a Swyddogion
3. Gweinyddir gweithgareddau’r Gymdeithas gan Bwyllgor a fydd yn cynnwys pum swyddog a hyd at pum aelod cyffredin. Bydd gan y swyddogion hawl i gyfethol dau aelod arall am gyfnod o flwyddyn ac un neu ragor o aelodau ychwanegol dros dro i ddiben penodol.
4. Cworwm y Pwyllgor fydd pedwar aelod, gan gynnwys un aelod cyffredin.
5. Swyddogion y Gymdeithas fydd Cadeirydd, Is-Gadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd ac Ysgrifennydd Aelodaeth.
6. Cyfnod swyddogion ac aelodau’r Pwyllgor fydd tair blynedd ond bydd yr Ysgrifennydd, y Trysorydd a’r Ysgrifennydd Aelodaeth ar dir i’w hailethol.
7. Enwebir swyddogion ac aelodau ar gyfer y Pwyllgor drwy anfon llofnod cynigydd, eilydd ac enwebai at yr Ysgrifennydd ddau fis cyn y Cyfarfod Cyffredinol.
8. Os bydd swyddog yn analluog i weithredu, bydd gan y Pwyllgor yr awdurdod i benodi swyddog dros dro hyd at y Cyfarfod Cyffredinol nesaf.


Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

9. Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas yn y gynhadledd flynyddol yn ystod yr hydref er mwyn ethol swyddogion ac aelodau o’r Pwyllgor, derbyn cyfrifon y Gymdeithas a fydd wedi’u harchwilio hyd at 31 Mawrth y flwyddyn honno, penodi archwilydd annibynnol i’r Gymdeithas ar gyfer y flwyddyn ganlynol, a thrin unrhyw fater cymwys arall. Rhoddir rhybudd o 21 diwrnod o ddyddiad y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
10. Cworwm y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol fydd 7 aelod.
11. Dim ond y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu Gyfarfod Cyffredinol Arbennig sydd ag awdurdod i newid cyfansoddiad y Gymdeithas ar ôl anfon rhybudd o’r newid i holl aelodau’r Gymdeithas 21 diwrnod o flaen llaw.


Cyfarfod Cyffredinol Arbennig

12. Gellir galw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig ar gais ysgrifenedig 7 aelod o’r Gymdeithas ar ôl rhoi rhybudd o 21 diwrnod i holl aelodau’r Gymdeithas.
13. Cworwm y Cyfarfod Cyffredinol Arbennig fydd 7 aelod.


Cyllid

14. Rhaid i ddau o’r canlynol lofnodi sieciau: y Cadeirydd, yr Is-Gadeirydd, y Trysorydd, yr Ysgrifennydd neu aelod penodedig o’r Pwyllgor.
15. Gellir defnyddio cyllid, incwm ac asedau’r Gymdeithas yn unig i gyflawni dibenion y Gymdeithas.
16. Ni chaiff unrhyw swyddog nac aelod o’r Pwyllgor gydnabyddiaeth ariannol ac eithrio costau dilys sy‘n codi o weithredu ar ran y Gymdeithas.


Cyfarfodydd Cyhoeddus

17. Bydd pob cyfarfod o’r Gymdeithas, gan gynnwys y Gynhadledd Flynyddol, yn agored i’r cyhoedd, ond gan yr aelodau yn unig y bydd yr hawl i bleidleisio.


Cyfrwng

18. Prif iaith y Gymdeithas yw’r Gymraeg.


Dirwyn y Gymdeithas i ben

19. Gellir diddymu’r Gymdeithas ar argymhelliad y Pwyllgor ar ôl i’r argymhelliad gael ei gadarnhau naill ai yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig drwy bleidlais o leiaf ddwy ran o dair o’r aelodau a fydd yn bresennol.
20. Rhoddir unrhyw gyllid neu asedau i gymdeithas sy’n arddel amcanion cyffelyb ar ôl dirwyn y Gymdeithas i ben.

Arall

21. Aelodaeth
(i) Mae’r aelodaeth yn agored i bawb sy'n cytuno ag amcanion y Gymdeithas ac sy'n talu'r tâl aelodaeth a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith. Bydd unrhyw aelod y mae ei danysgrifiad yn ddyledus am chwe mis yn colli ei aelodaeth ond gall ymaelodi drwy dalu'r swm sy'n ddyledus am y flwyddyn honno.
(ii) Aelodau Anrhydeddus - Mae gan y Gymdeithas hawl i benodi aelodau anrhydeddus.


22. Dirprwyo awdurdod (Delegation of authority)

Mae’r aelodau’n dirprwyo ac yn ymddiried eu hawdurdod yn swyddogion y Gymdeithas o ran materion ariannol ac unrhyw gytundebau rhwng y Gymdeithas a thrydydd parti.