Sefydliad Wicimedia
(Ailgyfeiriad o Wikimedia)
Sefydliad di-elw elusennol ydy Sefydliad Wicimedia (Saesneg: Wikimedia Foundation). Mae ei bencadlys yn San Francisco, Califfornia, Unol Daleithiau America, trefnir eu gweithgareddau o dan cyfraith talaith Florida, lle seilwyd y sefydliad yn wreiddiol. Mae'n gweithredu sawl prosiect wici cydweithredol ar y we, gan gynnwys Wicipedia, Wiciadur, Wiciddyfynnu, Wicilyfrau, Wicitestun, Comin Wikimedia, Wicirywogaeth, Wicinewyddion, Wiciversity, Wikimedia Incubator a Meta-Wici. Y prosiect mwyaf yw'r Wicipedia Saesneg, sy'n un o'r deg gwefan a gaiff ei ymweld amlaf yn fyd-eang.[1]
Math | sefydliad di-elw |
---|---|
Math o fusnes | sefydliad 501(c)(3) |
Sefydlwyd | 20 Mehefin 2003 |
Sefydlydd | Jimmy Wales |
Cadeirydd | Natalia Tymkiv |
Pencadlys | San Francisco |
Pobl allweddol | Maryana Iskander (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | Wicipedia |
Refeniw | 154,686,521 $ (UDA) (2022) |
Cyfanswm yr asedau | 250,965,442 $ (UDA) (30 Mehefin 2022) |
Nifer a gyflogir | 700 (3 Tachwedd 2023) |
Rhiant-gwmni | Wicimedia |
Gwefan | https://wikimediafoundation.org/ |
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. Gweler y dudalen sgwrs am ragor o wybodaeth. |
Ffynonellau
golygu Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.