Wil Tân

canwr o Ynys Môn

Canwr gwerin, yn wreiddiol o Ynys Môn, yw Wil Tân. Wiliam Emrys Roberts yn enedigol, ond wedi iddo ymuno gyda'r frigâd dân, ym Mhorthaethwy, cafwyd y llysenw Wil Tân. Mae gan ei gerddoriaeth gysylltiadau Celtaidd cryf gan i Wil gael ei ddylanwadu gan faledi traddodiadol Gwyddelig.

Wil Tân
GanwydYnys Môn Edit this on Wikidata
Man preswylPorthaethwy Edit this on Wikidata
Galwedigaethdyn tân, canwr Edit this on Wikidata

Dechreuodd ganu'n gyhoeddus am y tro cyntaf tra'n ymweld gyda'i ffrindiau o Conemara a Galway. Yn 2017 roedd wedi rhyddhau 5 albwm.

Albymau golygu

  • Llanw ar Draeth (2012)
  • O Gymru i Gonamara (2014)
  • Crwydryn (2015)
  • Sgrech a Gwen (2015)
  • Yr Arwydd (2015)