Arlunydd Cymreig o Ynys Môn oedd Richard Wilfred Roberts a adwaenid fel Wilf Roberts (194119 Medi 2016).[1] Caiff ei ystyried yn un o artistiaid tirluniau Cymreig mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth.[2]

Wilf Roberts
Llun olew gan Wilf Roberts
Ganwyd1941 Edit this on Wikidata
Llanfaelog Edit this on Wikidata
Bu farw19 Medi 2016, 2016 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Cafodd ei eni yn Llanfaelog ym 1941 ac fe'i magwyd ar Fynydd Bodafon, Ynys Môn. Aeth i Ysgol Uwchradd Llangefni lle cafodd ei ysbrydoli gan ei athrawon celf oedd yn cynnwys Ernest Zobole a Gwilym Prichard.[3] Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Normal, Bangor ac yn 1962 symudodd i fyw i Croydon, Llundain, lle bu'n dysgu celf ac yn astudio'n rhan amser yng Ngholeg Celf Croydon.

Yn 1974, dychwelodd i Fôn gan weithio i'r cyngor a'r Adran Addysg. Er na fu'n arddangos am nifer o flynyddoedd, bu'n dal ati i beintio, gan gyfrannu ei waith a darlunio a chynllunio posteri ar gyfer elusennau cenedlaethol. Penderfynodd ymddeol yn 1996 er mwyn ymroi ei amser yn llwyr i beintio.[4]

Ysbrydolwyd ei waith gan harddwch y tirlun o'i gwmpas ac erwinder y clogwyni a’r moroedd o amgylch Ynys Môn. Roedd yn peintio yn bennaf gyda olew ac acrylig, gyda lliwiau daearol yn sylfaen i'w bortreadau o hen ffermdai, bythynnod, capeli ac eglwys yr ynys.

Bu galw mawr am ei waith yn dilyn amryw o arddangosfeydd yn Oriel Tegfryn, Porthaethwy ac yn ei oriel yn Llundain. Mae ei waith mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat yn yr Hague, Paris, Efrog Newydd, Awstralia a Phrydain.

Bu farw yn ei gartref ar Ynys Môn, yn dilyn salwch, ar 19 Medi 2016.

Cyfeiriadau golygu

  1.  ROBERTS : Obituary. bmdsonline.co.uk (24 Medi 2016). Adalwyd ar 26 Medi 2016.
  2. Marw ‘yr artist o Fôn’ , Golwg360, 20 Medi 2016.
  3. (Saesneg) Visions at Oriel Ynys Môn. BBC Wales (18 Awst 2010). Adalwyd ar 20 Medi 2016.
  4.  Wilf Roberts. Oriel Martin Tinney. Adalwyd ar 20 Medi 2016.