Mynydd Bodafon
Bryn ar Ynys Môn yw Mynydd Bodafon. Ei bwynt uchaf yw copa Yr Arwydd (178 m / 585'). Hwn yw'r bryn uchaf ar yr ynys. Mynydd Eilian yw'r ail uchaf, (177 m / 581'.) Pwynt uchaf y sir ydy Mynydd Twr 220m, 720' sydd yn ddaearyddol ar Ynys Gybi nid Ynys Môn.
![]() | |
Cyfieithiad | |
Iaith | Cymraeg |
Testun y llun | Mynydd Bodafon |
Uchder (m) | 178 |
Uchder (tr) | 584 |
Amlygrwydd (m) | 178 |
Lleoliad | Ynys Môn |
Map topograffig | Landranger 114; Explorer 263N |
Cyfesurynnau OS | SH472854 |
Gwlad | Cymru |
Dosbarthiad | Marilyn (mynydd) |
Lleolir Mynydd Bodafon yng ngogledd-ddwyrain yr ynys, tua hanner ffordd rhwng Llannerch-y-medd i'r gorllewin a Moelfre i'r dwyrain. Mae ar y ffin rhwng plwyfi Penrhosllugwy a Llanfihangel Tre'r Beirdd; cyfeiriad grid SH472854. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 0metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Mae union ystyr yr enw Bodafon yn ansicr. Mae bod (trigfan) yn elfen gyffredin mewn enwau lleoedd, ond does dim afon yn y cylch i esbonio'r enw. Fodd bynnag, ceir Llyn Archaddon fel hen enw ar y llyn bychan ar lethr y mynydd a elwir yn Llyn Bodafon heddiw. Gall Bodafon fod yn amrywiad ar Bodaddon (gyda -dd yn newid i -f, fel sy'n digwydd weithiau). Felly bod (trigfan) + aeddon ('arglwydd') neu A(e)ddon (enw personol), efallai.[1]
Ceir olion Cytiau'r Gwyddelod, sy'n perthyn i Oes yr Haearn yn ôl pob tebyg, ar lethrau'r mynydd.
Mae'r bryn yn boblogaidd gan bobl leol i fynd am dro neu i bysgota. Ceir golygfa dros Fôn o'r copa.
Enwir Yr Arwydd, papur bro cylch Mynydd Bodafon, ar ôl enw copa'r bryn.
Y CopaGolygu
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[2] Uchder y copa o lefel y môr ydy 178m (584tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Melville Richards, 'Enwau lleoedd', Atlas Môn (Llangefni, 1972).
- ↑ “Database of British and Irish hills”