Wilfred Mitford Davies
arlunydd
Darlunydd llyfrau plant Cymraeg oedd Wilfred Mitford Davies (23 Chwefror 1895 – 19 Mawrth 1966). Fe'i ganwyd ym Mhorthaethwy, Môn.
Wilfred Mitford Davies | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 23 Chwefror 1895 ![]() Porthaethwy ![]() |
Bu farw | 19 Mawrth 1966 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | arlunydd ![]() |
Mae'n debyg mai W. Mitford Davies yw'r mwyaf adnabyddus o arlunwyr llyfrau plant Cymru. Cafodd wahoddiad gan Ifan ab Owen Edwards i ddarlunio'r gyfres boblogaidd Cymru'r Plant yn 1922. Darluniodd nifer o lyfrau plant Cymraeg yn ystod ei yrfa hir.