Richard Herbert
Marchog, Iorcydd a noddwr beirdd o'r Oesoedd Canol oedd Syr Rhisiart Herbert neu Richard Herbert o Golbrwg (bu farw 1469). Roedd yn frawd iau i William Herbert, Iarll Penfro ac yn fab i Syr William ap Thomas o Gastell Rhaglan a Gwladys ferch Dafydd Gam, ac yn ŵyr felly i Ddafydd Gam. Priododd Marged, chwaer Syr Rhys ap Thomas (1449 - 1525) un o uchelwyr mwyaf grymus de Cymru.
Richard Herbert | |
---|---|
Beddrod Richard Herbert yn Eglwys y Santes Fair ym Mhriordy'r Fenni. | |
Ganwyd | 15 g |
Bu farw | Gorffennaf 1469, 1469 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | William ap Thomas |
Mam | Gwladys ferch Dafydd Gam |
Priod | Margaret ap Thomas |
Plant | William Herbert, John Herbert, Richard Herbert, William ap Richard Herbert, William Herbert, Thomas ap Richard Herbert |
Fel ei frawd roedd yn deyrngar i'r Iorciaid yn ystod Rhyfel y Rhosynnau. Credir ei fod wedi ymladd ysgwydd wrth ysgwydd gyda’i frawd ym Mrwydr Mortimer’s Cross, lle trechwyd llu Siasbar Tudur gan Edward, mab dug Iorc. Ar ôl i Edward gael ei gydnabod yn frenin Lloegr, bu Rhisiart yn cyflawni swyddogaethau pwysig yn Ne Cymru e.e. oedd cyd-arweinydd yr ymgyrch yn erbyn Castell Carreg Cennen yn 1462. Yn 1468 arweiniodd treuan o fyddin Wiliam Herbert yn erbyn castell Harlech, a ddelid gan y Lancastriaid. Ar y ffordd yno fe drechodd lu Siasbar Tudur ger Dinbych. Gwobrwywyd ef a'i frawd Rhisiart Herbert yn hael gan y brenin a gwobrwywyd y ddau gyda lawer o diroedd yn swyddi Henffordd a Chaerloyw.
Daliwyd Rhisiart a'i frawd ym mrwydr Edgecote ar 24 Gorffennaf 1469, gan eu gelyn, Richard Neville, Iarll Warwick. Aethpwyd â'r ddau i Northampton lle cawsant eu dienyddio. Dygwyd corff Rhisiart yn ôl i’r Fenni a'i gladdu yno yn eglwys Priordy Mair ac mae ei feddrod ysblennydd yno hyd heddiw.
Perthnasau
golyguEi wraig oedd Margred ferch Tomas ap Gruffudd ap Nicolas ac roedd ganddo fab o'r enw Wiliam o Golbrwg ac eraill o bosib. Roedd yn hanner brawd i feibion Syr Rhosier Fychan.
Noddwr y beirdd
golyguCanodd Bedo Brwynllys nifer o gerddi iddo, ac ystyrid ef yn un o noddwyr hael beirdd yr Uchelwyr. Erys un cywydd a erys iddo gan Guto’r Glyn a cheir awdl iddo gan Lewys Glyn Cothi, cywydd mawl gan Ieuan Deulwyn ac awdl gan Huw Cae Llwyd i’w fab, Syr Wiliam Herbert o Golbrwg. Ceir hefyd ymryson rhwng Ieuan Deulwyn a Bedo Brwynllys a gynhaliwyd ar ei aelwyd ef yng Ngholbrwg. Yn olaf, ceir marwnadau gan Fedo Brwynllys (Lewis 1982: cerdd 30) a Hywel Dafi a marwnad i Risiart a’i frawd Wiliam, iarll Penfro, gan Huw Cae Llwyd.[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ www.gutorglyn.net Archifwyd 2022-08-19 yn y Peiriant Wayback adalwyd 15 Medi 2015
Llyfryddiaeth
- Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Caerdydd)
- Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Caerdydd)
- Lewis, B.J. (2011), The Battle of Edgecote or Banbury (1469) through the Eyes of Contemporary Welsh Poets, Journal of Medieval Military History, 9: 97–117
- Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
- Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
- Smith, P. (1957), ‘Coldbrook House’, Arch Camb cvi: 64–71
- Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)