William o Ockham
Athronydd a diwinydd o Loegr oedd William o Ockham (tua 1287 – 1347 neu 1349). Roedd yn athronydd ysgolaidd a sefydlodd ffurf o enwoliaeth, gan wadu bod realiti i gysyniadau ac eithrio'r pethau unigol a ddynodir gan eiriau. Ei brif rodd i faes athroniaeth yw rasel Occam, yr egwyddor sy'n honni taw'r ddamcaniaeth symlaf yw'r ddamcaniaeth debycaf.[1][2]
William o Ockham | |
---|---|
Delw o William o Ockham mewn ffenestr gwydr lliw mewn eglwys yn Surrey. | |
Ganwyd | William of Ockham Unknown Ockham |
Bu farw | c. 9 Ebrill 1349 München |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, diwinydd, rhesymegwr, ffisegydd, llenor |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Sum of Logic |
Prif ddylanwad | Aristoteles, Tomos o Acwin, Anselm o Gaergaint |
Mudiad | enwoliaeth, Ysgolaeth |
Ganwyd William yn Ockham, Surrey, tua 1287, ac ymunodd â'r Ffransisiaid pan oedd yn ifanc. Astudiodd diwinyddiaeth yng Ngholeg Merton, Rhydychen. Teithiodd i Avignon yn Ffrainc ym 1324 ar gais y Pab Ioan XXII.[3] Yna bu'n cwrdd â John Lutterell a Bonagratia o Bergamo, a daeth y tri ohonynt i gytuno taw heretic oedd y Pab. Bu'r tri ohonynt yn ffoi o Avignon y 1328, a chafodd William ei ysgymuno o'r Eglwys Gatholig. Parhaodd i ysgrifennu ar resymeg yn ei flynyddoedd olaf. Bu farw William ym München ym 1347 neu 1349, yn bosib o'r Pla Du.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) William of Ockham. Stanford Encyclopedia of Philosophy. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2014.
- ↑ (Saesneg) William of Ockham. Catholic Encyclopedia. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2014.
- ↑ (Saesneg) William of Ockham. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2014.
- ↑ (Saesneg) William of Ockham (Treatise to John XXII). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2014.