Rasel Ockham

(Ailgyfeiriad o Rasel Occam)

Egwyddor athronyddol yw rasel Ockham sy'n dal taw'r ddamcaniaeth neu esboniad symlaf yw'r ddamcaniaeth neu esboniad tebycaf, a gorau po leiaf y nifer o ragdybiaethau. Mae'r cysyniad yn tynnu ar agweddau enwoliaeth a rhydwythiaeth. Mae rasel Ockham yn arbennig o bwysig yn athroniaeth y gwyddorau.

Cafodd yr egwyddor ei gosod yn ieithwedd athroniaeth gan William o Ockham, brawd o Urdd Sant Ffransis a astudiodd rhesymeg yn y 14g.[1] Fe'i gelwir weithiau gan ei enw Lladinlex parsimoniae, "deddf byrder". Yn ôl y traddodiad, ysgrifennodd William o Ockham yr egwyddor yn Lladin fel a ganlyn:

  • Entia non sunt multiplicanda praeter necessitatem.[1]

Yn Gymraeg:

  • Ni ddylid lluosi endidau heb fod angen.

Felly, os oes sawl esboniad posib, mae'n debyg taw'r un sy'n defnyddio'r lleiaf o ragdybiaethau yw'r ateb cywir. Mae rasel Ockham ond yn berthnasol os yw'r dewis syml a'r dewis cymhleth yn gywerth. Os oes ddamcaniaeth gymhleth sy'n egluro'r sefyllfa'n well na'r ddamcaniaeth syml, yna'r un cymhleth sy'n debycaf o fod yn gywir.

Trosiad yw'r "rasel" yn enw'r egwyddor: mae rasel Ockham yn cael gwared ag esboniadau diangen megis rasel yn siafo blew.[2]

Syniadau eraill

golygu

Er i rasel Ockham gyfeirio at "endidau" (entia), esboniadau neu ddamcaniaethau yw gwir destun yr egwyddor. Aeth athronwyr eraill ati i osod yr un syniad mewn geiriau cywirach:

  • "Fel rheol dda, rydym yn esbonio'r ffenomenau yn ôl y ddamcaniaeth symlaf bosib." Ptolemi.[3] Gosododd Ptolemi felly'r egwyddor hon cyn i William o Ockham ei wneud. Yn ogystal, ni chanfodir union eiriad tybieig Ockham yn ei weithiau sy'n goroesi.[4]
  • "Na ddylem derbyn unrhyw achosion i bethau naturiol ar wahân i'r rhai sy'n wir ac yn ddigonol i'w hesbonio. Gan hynny, mae'n rhaid inni briodoli'r un achosion i'r un effeithiau naturiol." Isaac Newton.[5]
  • "Pa bryd bynnag mae'n bosib, rhowch dehongliad ar sail endidau hysbys yn lle casgliadau sy'n seiliedig ar endidau anhysbys." Bertrand Russell.[6]

Defnyddir rasel Ockham fel rheol gyffredinol gan wyddonwyr.[7][8][9][10][11][12]

Yr egwyddor ar waith

golygu

Gosodir yr enghraifft ddilynol gan yr awdur gwyddonol, Simon Singh: Mae dwy goeden wedi cwympo yn ystod noson wyntog. Dyma dau esboniad posib:

  1. Chwythu'r gwynt â'u codant o'r gwraidd.
  1. Cafodd un goeden ei tharo gan feteorit, y goeden arall ei daro gan feteorit hollol wahanol, ac yna wnaeth y ddau faen wrthdaro a chwalu ei gilydd yn ddarnau mân. Dim ond y ddau goeden gwympedig sydd ar ôl.

Er bod y ddau gynnig i egluro'r sefyllfa yn bosibl, mae'r ail esboniad yn gofyn am nifer o amodau annhebygol iawn. Gormod o ragdybiaethau sy'n diystyru theori'r meteoritau felly. Yn ôl rasel Ockham, cafodd y coed eu dymchwel gan y gwynt oherwydd dyna'r esboniad symlaf.

Mae rasel Ockham hefyd o bwys ym maes meddygaeth. Pan bo nifer o esboniadau am symptomau, y diagnosis symlaf yw'r un i brofi'n gyntaf. Er enghraifft, os oes gan blentyn drwyn sy'n diferu, mae'n debyg taw annwyd ac nid nam geni prin sydd ganddo. Dywedir i fyfyrwyr meddygol yn aml: "Pan eich bod yn clywed curo'r carnau, meddyliwch am geffyl ac nid sebra".

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Ockham's razor". Encyclopædia Britannica. Encyclopædia Britannica Online. 2010. Cyrchwyd 12 June 2010.
  2. Anu Garg (17 Mai 2010). "A.Word.A.Day - Ockham's razor". Cyrchwyd 30 October 2011.
  3. Franklin, James (2001). The science of conjecture: evidence and probability before Pascal. The Johns Hopkins University Press.
  4. Crombie A.C. 1959.
  5. Stephen Hawking, On the shoulders of giants (Penguin, 2003)
  6. Stanford Encyclopedia of Philosophy, 'Logical construction'
  7. Hugh G. Gauch 2003.
  8. Hoffmann, Roald et al 1997.
  9. Alan Baker (2004, 2010), "Simplicity", Stanford Encyclopedia of Philosophy, California: Stanford University, ISSN 1095-5054, http://plato.stanford.edu/entries/simplicity/, adalwyd 25 July 2012
  10. Courtney A & M (2008), "Comments regarding "On the Nature Of Science"", Physics in Canada 64 (3): 7-8, http://arxiv.org/ftp/arxiv/papers/0812/0812.4932.pdf, adalwyd 1 Awst 2012
  11. Gernert, Dieter 2007.
  12. Elliott Sober 1994.