Heresi

(Ailgyfeiriad o Heretic)

Cred neu athrawiaeth grefyddol sy'n groes i ddysgeidiaeth uniongred neu'r drefn sefydledig yw heresi (hefyd geugred, cam-gred).[1] Yn ystod oesoedd cynnar Cristnogaeth, roedd yn rhaid i'r Eglwys ymdrin â sawl dadl a elwir yn heresïau: Ariaeth, Docetiaeth, Gnostigiaeth, Mabwysiadaeth, Montaniaeth, Pelagiaeth a Sabeliaeth. Ynghyd â gwrthgiliad (apostasi) a chabledd, heresi oedd un o'r prif droseddau yn erbyn y ffydd Gristnogol.

Darluniad o gronicl Ffrengig sy'n portreadu llosgi'r hereticiaid Amalricaidd yn y flwyddyn 1210, o flaen y Brenin Philippe II. Pantheistiaid oedd yr Amalriciaid ac yn gwadu trawsylweddiad.
Galileo Galilei yn euog o heretic

Cyfeiriadau golygu

  1.  heresi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 2 Ionawr 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.