William Addams-Williams
Roedd William Addams-Williams (10 Awst 1787 – 5 Medi 1861) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd a gynrychiolodd Sir Fynwy yn y senedd o 1831 i 1841.[1]
William Addams-Williams | |
---|---|
Ganwyd | 10 Awst 1787 Llangybi |
Bu farw | 5 Medi 1861 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Cyflogwr |
Bywyd Personol
golyguRoedd Addams-Williams, yn fab i William Addams-Williams, Castell Llangybi a Caroline merch Samuel Marsh, Uxbridge.
Ym 1818 priododd a Anna Louisa merch y Parch Iltyd Nicholl rheithor Teddington Sir Caerwrangon [2], ac aelod o deulu Nicholl, Sir Forgannwg; bu iddynt un mab a dwy ferch. Wŷr iddo oedd y Parch William Addams Williams Evans (1853- 1919) a chwaraeodd i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, yn y ddwy gêm ryngwladol gyntaf ym 1876 a 1877.[3]
Gyrfa gyhoeddus
golyguAr farwolaeth ei dad ym 1823 Etifeddodd Williams ystâd Llangybi[4] Gwasanaethodd fel ynad heddwch ar Fainc Sir Fynwy, bu'n dirprwy raglaw'r sir, a gwasanaethodd fel yr Uchel Siryf ym 1827. Cafodd ei ethol yn aelod seneddol Rhyddfrydol dros etholaeth y sir ym 1831 gan dal y sedd hyd 1840 pan fu'n rhaid iddo ymddeol oherwydd salwch difrifol.[5]
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref, Castell Llangybi yn 75 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orffwys yng Nghladdgell deuluol yn Eglwys Llangybi.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The History of Parliament on line ADDAMS WILLIAMS, William (1787-1861), of Llangibby Castle, Mon [1] adalwyd 20 Rhagfyr 2015
- ↑ "No title - The Cambrian". T. Jenkins. 1818-08-22. Cyrchwyd 2015-12-20.
- ↑ Gwasanaethau Archif Cyngor Wrecsam Rhaglen y Gêm (Cymru v Alban 1876) [2] Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 20 Rhagfyr 2015
- ↑ Yr Archif Genedlaethol Will of William Addams Williams of Llangibby Castle, Monmouthshire [3]. adalwyd 20 Rhagfyr 2015
- ↑ "LLANGIBBY - The Illustrated Usk Observer and Raglan Herald". James Henry Clark. 1861-09-07. Cyrchwyd 2015-12-20.
- ↑ "DEATH OF WILLIAM ADDAMS WILLIAMSES OF LLANGIBBY CASTLE - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1861-09-14. Cyrchwyd 2015-12-19.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Charles Gould Morgan |
Aelod Seneddol Sir Fynwy 1831 – 1841 |
Olynydd: Charles Octavius Swinnerton Morgan |