William Charles Evans

cemegydd a bywydegydd

Arloeswr ym maes biocemeg oedd William Charles Evans (1 Hydref 1911 - 24 Gorffennaf 1988) a anwyd ym Methel ger Caernarfon, Gwynedd. Deuai ei dad, a oedd yn saer maen, o Fethel, Llanddeiniolen. Graddiodd mewn cemeg ym Mhrifysgol Bangor a ffisioleg ym Mhrifysgol Manceinion.

William Charles Evans
Ganwyd1 Hydref 1911 Edit this on Wikidata
Bethel Edit this on Wikidata
Bu farw24 Gorffennaf 1988 Edit this on Wikidata
Llangaffo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbiocemegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Yn gynnar yn ei yrfa bu'n ymchwilydd meddygol yn Llundain ac yn darlithio mewn cemeg amaethyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dychwelodd i Fangor yn 1951 yn athro ar yr adran fiocemeg a gwyddor pridd. Roedd wrth ei fodd gyda biodiraddiad cemegau gwenwynig a chlwy rhedyn mewn gwartheg.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.