Bethel, Gwynedd
Pentref yng nghymuned Llanddeiniolen, Gwynedd, Cymru, ydy Bethel[1][2] ( ynganiad ). Saif ar ffordd y B4366 rhwng Caernarfon a Llandygái, 4 cilometr o Gaernarfon a 7 cilometr o Fangor.
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1645°N 4.2099°W ![]() |
Cod OS | SH522653 ![]() |
Cod post | LL55 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
![]() | |
- Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Bethel.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]
Tyfodd y pentref yn sgil datblygiad chwareli Llanberis, yn enwedig Chwarel Dinorwig, gan fod Bethel wrth ochr y rheilffordd oedd yn cario llechi o Chwarel Dinorwig i'r Felinheli. I'r de o'r pentref mae bryngaer Dinas Dinorwig.
Gerllaw Bethel ei hun mae Saron a Penrhos. Yn y pentref ceir garej gwerthu ceir, tri chapel a chaffi 'Perthyn', a agorodd ei ddrysau ym mis Hydref 2020. Mae yna hefyd glwb pêl-droed.
Ysgol Gynradd BethelGolygu
Ysgol Gynradd Sirol (Babanod/Iau) yw Ysgol Gynradd Bethel ac mae'n ysgol ddyddiol, ddwyieithog, gyd-addysgol.[5] Yn 2019, roedd 150 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed yn mynychu'r ysgol.[6] Cymraeg yw iaith yr ysgol o ddydd i ddydd a Chymraeg yw'r iaith a ddefnyddir i gyfathrebu â'r disgyblion ac yng ngweinyddiaeth yr ysgol. Yn dilyn arolygiad Estyn yn 2019, derbyniodd yr ysgol y sgôr uchaf posib gan yr arolygwyr.[7] Beirniadwyd yr ysgol ar bum maes; Safonau, Lles ac Ymagweddau tuag at Ddysgu, Profiadau Dysgu ac Addysgu, Gofal, Cymorth, Arweiniad, ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Derbyniwyd sgôr ardderchog ym mhob maes.[8]
Cyfrifiad Cenedlaethol 2011 a'r GymraegGolygu
Arolwg sy'n digwydd bob 10 mlynedd yw'r cyfrifiad ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.[9] Yn ôl canlyniadau cyfrifiad 2011, roedd 1,342 o bobl, dros 3 oed, yn byw ym Methel.[10] O'r nifer hwn, roedd 85.8% o boblogaeth y pentref yn gallu siarad Cymraeg, a 77.1% o boblogaeth y pentref yn gallu siarad, darllen, ac ysgrifennu yn y Gymraeg.[10] Caiff y canran uchel hwn o siaradwyr Cymraeg ei adlewyrchu yn adroddiad Estyn o Ysgol Bethel yn 2019, sydd yn nodi bod bron pob un o’r disgyblion yn "ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg ac yn ei defnyddio'n naturiol wrth siarad â'i gilydd."[8]
Pobl o FethelGolygu
- W. J. Gruffydd (1881–1954), bardd, llenor, gwleidydd ac academydd
- Berwyn Jones, Ifan Jams, Dewi Foulkes, Sion Garth - aelodau'r band Derwyddon Dr Gonzo
- Selwyn Iolen (2005-2008), archdderwydd
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 20 Ionawr 2022
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ Ysgol Bethel. d.d. "Ysgol Gynradd Bethel Primary School". ysgolbethel.org. Cyrchwyd 4 Mawrth 2022.
- ↑ "A report on Ysgol Gynradd Bethel" (PDF). Estyn. Mai 2019. Cyrchwyd: 4 Mawrth 2022
- ↑ Williams, G. & Care, A. 2019. The 'excellent' Gwynedd school praised for its natural Welsh ethos [Ar-lein]. Bae Colwyn: Daily Post. Ar gael: https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/excellent-gwynedd-school-praised-natural-16645381 [Cyrchwyd: 4 Mawrth 2022]
- ↑ 8.0 8.1 Estyn. 2019. Ysgol Gynradd Bethel. Caerdydd: Estyn. [Ar-lein] Ar gael: https://www.estyn.gov.wales/system/files/2021-08/Inspection%20report%20Ysgol%20Gynradd%20Bethel%202019.pdf [Cyrchwyd: 4 Mawrth 2022]
- ↑ "Ynglŷn â'r cyfrifiad". Cyfrifiad 2021. Cyrchwyd 2022-03-04.
- ↑ 10.0 10.1 "Proffiliau iaith ardaloedd a Phoblogaeth". www.gwynedd.llyw.cymru. Cyrchwyd 2022-03-04.
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw ·
Y Bala ·
Bethesda ·
Blaenau Ffestiniog ·
Caernarfon ·
Cricieth ·
Dolgellau ·
Harlech ·
Nefyn ·
Penrhyndeudraeth ·
Porthmadog ·
Pwllheli ·
Tywyn
Pentrefi
Aberangell ·
Aberdaron ·
Aberdesach ·
Aberdyfi ·
Abererch ·
Abergwyngregyn ·
Abergynolwyn ·
Aberllefenni ·
Abersoch ·
Afon Wen ·
Arthog ·
Beddgelert ·
Bethania ·
Bethel ·
Betws Garmon ·
Boduan ·
Y Bont-ddu ·
Bontnewydd (Arfon) ·
Bontnewydd (Meirionnydd) ·
Botwnnog ·
Brithdir ·
Bronaber ·
Bryncir ·
Bryncroes ·
Bryn-crug ·
Brynrefail ·
Bwlchtocyn ·
Caeathro ·
Carmel ·
Carneddi ·
Cefnddwysarn ·
Clynnog Fawr ·
Corris ·
Croesor ·
Crogen ·
Cwm-y-glo ·
Chwilog ·
Deiniolen ·
Dinas, Llanwnda ·
Dinas, Llŷn ·
Dinas Dinlle ·
Dinas Mawddwy ·
Dolbenmaen ·
Dolydd ·
Dyffryn Ardudwy ·
Edern ·
Efailnewydd ·
Fairbourne ·
Y Felinheli ·
Y Ffôr ·
Y Fron ·
Fron-goch ·
Ffestiniog ·
Ganllwyd ·
Garndolbenmaen ·
Garreg ·
Gellilydan ·
Glan-y-wern ·
Glasinfryn ·
Golan ·
Groeslon ·
Llanaber ·
Llanaelhaearn ·
Llanarmon ·
Llanbedr ·
Llanbedrog ·
Llanberis ·
Llandanwg ·
Llandecwyn ·
Llandegwning ·
Llandwrog ·
Llandygái ·
Llanddeiniolen ·
Llandderfel ·
Llanddwywe ·
Llanegryn ·
Llanenddwyn ·
Llanengan ·
Llanelltyd ·
Llanfachreth ·
Llanfaelrhys ·
Llanfaglan ·
Llanfair ·
Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) ·
Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) ·
Llanfihangel-y-traethau ·
Llanfor ·
Llanfrothen ·
Llangelynnin ·
Llangïan ·
Llangwnadl ·
Llwyngwril ·
Llangybi ·
Llangywer ·
Llaniestyn ·
Llanllechid ·
Llanllyfni ·
Llannor ·
Llanrug ·
Llanuwchllyn ·
Llanwnda ·
Llanymawddwy ·
Llanystumdwy ·
Llanycil ·
Llithfaen ·
Maentwrog ·
Mallwyd ·
Minffordd ·
Minllyn ·
Morfa Bychan ·
Morfa Nefyn ·
Mynydd Llandygái ·
Mynytho ·
Nantlle ·
Nantmor ·
Nant Peris ·
Nasareth ·
Nebo ·
Pant Glas ·
Penmorfa ·
Pennal ·
Penrhos ·
Penrhosgarnedd ·
Pen-sarn ·
Pentir ·
Pentrefelin ·
Pentre Gwynfryn ·
Pentreuchaf ·
Pen-y-groes ·
Pistyll ·
Pontllyfni ·
Portmeirion ·
Prenteg ·
Rachub ·
Y Rhiw ·
Rhiwlas ·
Rhos-fawr ·
Rhosgadfan ·
Rhoshirwaun ·
Rhoslan ·
Rhoslefain ·
Rhostryfan ·
Rhos-y-gwaliau ·
Rhyd ·
Rhyd-ddu ·
Rhyduchaf ·
Rhydyclafdy ·
Rhydymain ·
Sarnau ·
Sarn Mellteyrn ·
Saron ·
Sling ·
Soar ·
Talsarnau ·
Tal-y-bont, Abermaw ·
Tal-y-bont, Bangor ·
Tal-y-llyn ·
Talysarn ·
Tanygrisiau ·
Trawsfynydd ·
Treborth ·
Trefor ·
Tre-garth ·
Tremadog ·
Tudweiliog ·
Waunfawr