William Frost
Roedd William Frederick Frost (28 Rhagfyr 1846 – 25 Chwefror 1891) yn delynor Cymreig.[1]
William Frost | |
---|---|
Ganwyd | 28 Rhagfyr 1846 Merthyr Tudful |
Bu farw | 25 Chwefror 1891 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | telynor |
Cefndir
golyguGanwyd Frost ym Merthyr Tudfil yn blentyn i William Frost a Sarah ei wraig. Roedd y tad yn adnabyddus fel "y telynor dall", wedi iddo golli ei olwg trwy ddamwain pwll glo pan oedd yn blentyn. Dysgodd William Frost iau i ganu'r delyn gan ei dad.
Gyrfa
golyguBu farw William Frost yr hynaf pan oedd ei fab tua 15 mlwydd oed.[2] Er mwyn sicrhau incwm i'w deulu dechreuodd William iau canu'r delyn mewn tafarnau. Cafodd ei logi gan dafarn y Prince of Wales, Dowlais fel telynor preswyl ar ddwy noson pob wythnos. Bu'n fuddugol yng nghystadleuaeth y delyn yn eisteddfod Merthyr ym 1859. Enillodd ysgoloriaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ym 1863 a alluogodd i gael gwersi gan Llewelyn Williams (‘Pencerdd y De’). Yn Eisteddfod Caer 1866 enillodd cystadlaethau'r delyn pedalau a'r delyn deires gan gael telynau yn wobr.[3]
Wedi iddo briodi symudodd i Gaerdydd i fod yn athro cerdd gan gael ei gyflogi gan rhai o fawrion y ddinas, gan gynnwys teulu Arglwydd Aberdâr.
Bu'n feirniad rheolaidd ar gystadlaethau'r delyn mewn Eisteddfodau lleol a chenedlaethol gan ddefnyddio'r enw eisteddfodol Alawydd y Dyffryn. Cyfansoddodd nifer o alawon gan gynnwys "Hen Gymru Fynyddig," "Tra'n Rhodio'r Ddol"," Annwyl yw Gwalia, fy Ngwlad" a "Hoff Fryniau fy Ngwlad".[4]
Teulu
golyguPriododd Sarah Gedrych merch William Gedrych, ffermwr ym 1867 cawsant 3 o blant. Roedd Sarah yn bianydd dawnus a bu hi a'i gŵr yn cynnal cyngherddau gyda'i gilydd.
Marwolaeth
golyguErs yn ifanc bu Frost yn byw efo epilepsi gan gael ffitiau yn achlysurol. Bu farw o ganlyniad i ffit epileptig yn ei gartref yng Nghaerdydd ym 1891 yn 44 mlwydd oed.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Griffith, R. D., (1953). FROST, WILLIAM FREDERICK (1846 - 1891), telynor. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 15 Awst 2019
- ↑ Yr Haul, Cyf VI, Rhif 61, Ionawr 1890; Geiriadur Bywgraffyddol a Beirniadol o Gerddorion Ymadawedig Cymru adalwyd 15 Awst 2019
- ↑ "THE TRIPLE HARP - The North Wales Express". Robert Wiliams. 1878-08-23. Cyrchwyd 2019-08-15.
- ↑ "THE LATE DR W F FROST - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1891-03-07. Cyrchwyd 2019-08-15.
- ↑ "DEATH OF DR FROST OF CARDIFFI - South Wales Echo". Jones & Son. 1891-02-26. Cyrchwyd 2019-08-15.