William Morris (AS Caerfyrddin)
Roedd William Morris (25 Mehefin 1811 – 25 Chwefror 1877) yn fancer ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistref Caerfyrddin rhwng 1864 a 1868.[1]
William Morris | |
---|---|
Ganwyd | 25 Mehefin 1811 Llangynnwr |
Bu farw | 25 Chwefror 1877 Llangynog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | banciwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Morris.
Cefndir
golyguGanwyd Morris yn Llangynnwr yn ail fab i Thomas Morris a Maria ei wraig.
Cafodd ei addysgu yn ysgol ramadeg Caerfyrddin.[2]
Ym 1847 priododd Magdalen Mary Anna merch Sackville F Gwynne, Parc Glanbrân. Bu iddynt dau fab ac un ferch.
Gyrfa
golyguYn y 1780au agorodd hen dad-cu Morris banc yng Nghaerfyrddin o’r enw David Morris & sons. O dan reolaeth y meibion daeth yn fusnes hynod lwyddiannus a phan roddodd David Morris, ewythr William y gorau i’w gyfran ef o’r banc er mwyn bod yn Aelod Seneddol ym 1837 roedd yn werth tua £250,000 (gwerth tua £18 miliwn bellach).[3] Etifeddodd William a’i frawd hŷn Thomas Charles Morris y banc gan ei redeg hyd 1871, pan werthwyd y cwmni i’r National Provincial Bank of England.
Gyrfa wleidyddol
golyguAr farwolaeth ei ewyrth David Morris ym 1864 etholwyd William i sedd Bwrdeistref Caerfyrddin yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol. Cafodd ei ail ethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiad cyffredinol 1865, ond torrodd ei iechyd a phenderfynodd sefyll i lawr o’r senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1868.
Gwasanaethodd fel henadur ar Gorfforaeth Bwrdeistref Caerfyrddin am nifer o flynyddoedd a bu’n faer ar bedwar achlysur. Bu’n Ynad Heddwch ar fainc Sir Gaerfyrddin ac yn is raglaw’r sir. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf ym 1858.[4]
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref Y Cwm (neu Coomb fel bu rhai yn ei sillafu), Llangynog yn 68 mlwydd oed.
-
Nodyn yn Annals & Antquities[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "DEATHOFMRWILLIAMMORRISIOFCWM - The Western Mail". Abel Nadin. 1877-02-26. Cyrchwyd 2017-09-06.
- ↑ 2.0 2.1 Thomas Nicholas, 1872 Annals and antiquities of the counties and county families of Wales; containing a record of all ranks of the gentry adalwyd 7 Medi 2017
- ↑ Value of British money at today's date adalwyd 22 Ionawr 2017
- ↑ Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the Principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 adalwyd 7 Medi 2017
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: David Morris |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin 1864-1868 |
Olynydd: John Cowell-Stepney |