John Cowell-Stepney
Roedd Syr John Cowell-Stepney, Barwnig 1af (31 Mai 1791 - 15 Mai 1877) yn filwr, yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol a chynrychiolodd Bwrdeistref Caerfyrddin yn Nhŷ'r Cyffredin o 1868 i 1874.
John Cowell-Stepney | |
---|---|
Ganwyd | 31 Mai 1791, 28 Chwefror 1791 |
Bu farw | 15 Mai 1877, 5 Mai 1877 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | gwleidydd, milwr |
Swydd | Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Andrew Cowell |
Mam | Justina Maria Stepney |
Priod | Mary Anne Annesley, Euphemia Jamina Murray |
Plant | William Frederick Ross Cowell-Stepney, Arthur Cowell-Stepney, James Charles Murray Cowell-Stepney |
Bywyd Personol
golyguRoedd Syr John yr hynaf o ddau fab i'r Cadfridog Andrew Cowell, yn wreiddiol o Coleshill, Swydd Buckingham, a Maria Justina ei wraig, merch ieuangaf Syr Thomas Stepney, 7fed barwnig Prendergast, Sir Benfro, a Phlas Llanelli, Sir Gaerfyrddin[1]
Roedd yn defnyddio'r enw John Stepney Cowell hyd iddo etifeddu ystadau teulu Stepney[2] ym 1857 pan newidiodd enw'r teulu i Cowell-Stepney o dan delerau ewyllys ei ewythr, Syr John Stepney, 8fed barwnig.
Priododd Mary Anne Annesley, yn Antwerp ym 1820; roedd hi'n ferch i'r Anrhydeddus Robert Annsley; bu iddynt un mab, cyn iddi farw 6 mis ar ôl enedigaeth y plentyn ym Mis Tachwedd 1821. Ym 1823 priododd Euphemia Jemima Murray, merch John Murray, Glenalla, Swydd Donegal, bu iddynt dau fab James, a fu farw yn Rhyfel Crimea ym 1854 ag Arthur a olynodd ei dad fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Caerfyrddin.
Gyrfa filwrol
golyguRoedd tad Cowell yn Gadfridog yng Ngwarchodlu'r Coldstream ymaelododd y mab a'r un gatrawd. Bu'n brwydro yn Rhyfel y Penrhyn (1807-1814), rhyfel rhwng lluoedd Prydain a Sbaen a lluoedd Napoleon am reolaeth Penrhyn Iberia. Bu'n ymladd ym mrwydrau Fuentes de Oñoro, Ciudad Rodrigo, Salamanca, Vittoria a Quatre Bras; methodd brwydr Warterloo gan ei fod yn dioddef o ddysentri ar adeg y frwydr. Mewn cyfnodau o heddwch bu'n gwasanaethu yn Ffrainc, Manceinion, Gibraltar a Malta. Cafodd ei benodi'n Is Gyrnol ym 1830. Ysgrifennodd llyfr am ei brofiadau milwrol Leaves from the Diary of an Officer in the Guards
Gyrfa fel tirfeddiannwr
golyguYm 1857 etifeddodd Cowell-Stepney ystâd teulu Stepney yn Sir Gaerfyrddin ar ôl brwydr gyfreithiol gyda theulu arall oedd yn hawlio'r ystâd. Er mwyn ceisio cael yr incwm gorau o'r ystâd caniataodd adeiladu nifer o strydoedd, siopau a thai ar ei dir, enwodd nifer o'r strydoedd i anrhydeddu ei fywyd a'i deulu megis Stepney Street, Murray Street, Salamanca Road, Glenalla Road, Inkerman Street; strydoedd sy'n bod hyd heddiw.
Gyrfa Wleidyddol
golyguYn etholiad cyffredinol 1868, penderfynodd sefyll fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Bwrdeistrefi Caerfyrddin, er ei bod yn 77 mlwydd oed.[3] Wedi ei ethol, prin bu ei gyfraniadau yn y Senedd, er hynny roedd y cyfraniadau hynny yn weddol radical i un o hynafgwyr y sefydliad; roedd yn cefnogi hawl cyfartaledd i Gatholigion ac Iddewon, yn gwrthwynebu rhagfarn grefyddol mewn ysgolion a phrifysgolion ac yn llym ei feirniadaeth o landlordiaid eraill Cymru am roi pwysau ar eu tenantiaid i sicrhau eu pleidlais.[4]
Cafodd ei greu yn farwnig ym 1871.
Ymneilltuodd o'r Senedd ym 1874
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref yn Llundain, 5 St George's Place,[5] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Kensal Green, Llundain
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Erthygl heb deitl - The Cambrian". T. Jenkins. 1877-05-18. Cyrchwyd 2015-08-24.
- ↑ Y Bywgraffiadur STEPNEY , neu STEPNETH (TEULU), Prendergast, sir Benfro [1] adalwyd 24 Awst 2015
- ↑ "TheBoroughs - Llanelly Star". Brinley R. Jones. 1917-07-21. Cyrchwyd 2015-08-24.
- ↑ "DEATH OF SIR JOHN STEPNEY - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1877-05-19. Cyrchwyd 2015-08-24.
- ↑ "MARWOLAETH COL STEPNEY - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1877-05-18. Cyrchwyd 2015-08-24.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: William Morris |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin 1868 – 1874 |
Olynydd: Charles William Nevill |