William Phillips
llysieuegwr a hynafiaethydd (1822-1905)
Gwyddonydd oedd William Phillips (4 Mai 1822 – 23 Hydref 1905). Ganwyd yn Llanandras ym Maesyfed, yng Nghanolbarth Cymru.
William Phillips | |
---|---|
Ganwyd | 4 Mai 1822 Llanandras |
Bu farw | 23 Hydref 1905 o clefyd cardiofasgwlar |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cennegydd, botanegydd, mycolegydd, fforiwr |
Gwobr/au | Cymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr |
Hanes golygu
Roedd gan ei frawd fusnes dilladau yn yr Amwythig. Yn ystod ei flynyddoedd cynnar, roedd yn brentis teiliwr gydai'i frawd. Ar ôl sawl blwyddyn daeth Phillips yn bartner yn y cwmni. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn ffyngau ac roedd yn treulio'i amser yn yr Amwythig yn astudio'r gwahanol fathau o ffyngau. Ysgrifennodd llyfr yn 1887 o'r enw A Manual of British Discomycetes. Hanner cant o bapura oedden nhw am ffyngoedd. Cafodd clod mawr am ei waith.[1] Fe gymerodd ugain mlynedd i baratoi y llyfr hwn.
Etholwyd Phillips yn Gymrawd o'r Gymdeithas Linneaidd.
Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn seryddiaeth a hynafiaethau.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Roberts, O.E (1980). Rhai o Wyddonwyr Cymru. Cyhoeddiadau Modern Cymreig Cyf. t. 33.